RT Davies: Gwrthod galwad i San Steffan ymyrryd yn addysg

chris davies
Image caption Dywedodd Chris Davies y dylai Llywodraeth y DU gael yr hawl i "dynnu pwerau yn ôl"

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthod galwad un o ASau'r blaid i roi'r grym i Lywodraeth y DU ymyrryd ym myd addysg yng Nghymru.

Roedd AS Brycheiniog a Maesyfed, Chris Davies wedi dweud bod canlyniadau diweddaraf disgyblion Cymru yn awgrymu y dylai bod ffordd i "dynnu pwerau 'nôl i'r lle yma", gan gyfeirio at San Steffan.

Ddydd Mawrth, dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Andrew RT Davies, bod "rhaid parchu datganoli" gan ei fod "yma i aros".

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru mai "datganoli yw ewyllys pobl Cymru".

'Ar waelod y domen'

Roedd Chris Davies yn siarad mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Materion Cymreig pan ddywedodd bod "Cymru ar waelod y domen" o ystyried canlyniadau profion PISA.

"Ydych chi ddim yn dymuno bod mecanwaith mewn lle i dynnu pwerau yn ôl i'r lle yma er mwyn datrys hyn, yn yr un modd ag y mae gan y Cynulliad bwerau i roi awdurdodau lleol ac ysbytai dan fesurau arbennig?

"Ydych chi ddim yn credu y dylai fod cyfle i ni wneud yr un peth?"

Atebodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: "Na, oherwydd mae addysg yn fater sydd wedi ei ddatganoli, ac rwy'n credu y bydd pobl - rhieni - yn medru dangos eu hanfodlonrwydd yn y canolfannau pleidleisio a herio gweinidogion Llywodraeth Cymru ar lwyddiant neu fethiant unrhyw bolisi arbennig.

"Dyna natur datganoli, ac mae gan bobl yr hawl i fynegi eu teimladau am bolisi drwy bleidleisio yn yr etholiad bob pum mlynedd."

'Datganoli yma i aros'

Image caption Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, bod rhaid parchu datganoli

Yn ymateb ddydd Mawrth, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies ei fod yn anghytuno gyda sylwadau Chris Davies.

"Mae'r hyn sydd yn cael ei argymell gan Chris yn farn sydd yn cael ei rannu gan aelodau o'i etholaeth yn aml," meddai.

"Nid yw'n bolisi gan y llywodraeth yn San Steffan na chwaith yn bolisi'r Ceidwadwyr Cymreig."

Ychwanegodd "Mae ein polisi ni yn glir, mae'n rhaid parchu datganoli. Mae o yma i aros yn barhaol.

"Ni ddylai na fod cynlluniau o fesurau arbennig. Mae o lan i'r gwleidyddion sydd wedi eu hethol i fod yn atebol i bobl Cymru boed nhw'n Aelodau Seneddol neu yn Aelodau Cynulliad."

'Ewyllys pobl Cymru'

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Datganoli yw ewyllys pobl Cymru ac mae'n drist, er ddim yn syndod, gweld gwleidydd Torïaidd yn argymell gwyrdroi penderfyniad democrataidd yn y fath fodd.

"Yn hytrach na gwleidydda dibwrpas, efallai y dylai Mr Davies edrych am ysbrydoliaeth mewn datganoli.

"Yn wahanol i'r blaid ei hun sy'n codi biliau treth i gael eu hunain allan o dwll costau gofal cymdeithasol yn Lloegr, mae Llafur Cymru yn gwario 6% yn fwy ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol tra bod treth cyngor £156 yn is ar gyfartaledd."

Wrth gyfeirio'n benodol at addysg, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r OECD yn glir fod rhaid i ni barhau ar ein taith o adfer.

"Rydym yn parhau'n hyderus bod ein pwyslais ar arweiniad, datblygu athrawon a chyfrifoldeb ar y cyd - yn hytrach nag ysgolion gramadeg - yn fwy tebygol o godi safonau yn ein system.

"Mae'r gwaith caled wedi dechrau, ond rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud."