Gareth Bale yn dod yn chweched yn nhlws y Ballon d'Or

Cristiano Ronaldo a Gareth Bale Image copyright Getty Images
Image caption Mae Ronaldo a Bale wedi serennu dros eu clwb a'u gwledydd eleni

Roedd rhaid i Gareth Bale fodloni ar y chweched safle ar restr chwarewyr pel droed gorau'r byd y Ballon d'Or ar gyfer 2016.

Ei gyd-chwaraewr yn Real Madrid, Cristiano Ronaldo enillodd y wobr a hynny am y pedwerydd tro yn ei yrfa, gyda'r Archentwr Lionel Messi yn ail.

Mae Bale, sydd yn 27 oed, wedi sgorio saith gôl mewn 11 gêm i Gymru eleni yn ogystal â sgorio 25 mewn 43 ymddangosiad i Real Madrid.

Ar hyn o bryd mae'n brywdro i fod yn holliach ar gyfer gêm ragbrofol nesaf Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ym mis Mawrth, ar ôl iddo anafu ei ffêr yn chwarae i Real Madrid fis diwethaf.