Targed i gynyddu aelodaeth yr Urdd i 100,000 erbyn 2022

Sioned Hughes

Mae Prif Weithredwr yr Urdd eisiau cynyddu nifer yr aelodau i 100,000 erbyn dathliad y mudiad yn 100 oed mewn chwe blynedd.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru Fyw mae Sioned Hughes yn dweud ei bod yn ffyddiog bod y targed yn un cyraeddadwy.

"Ar hyn o bryd mae ein haelodaeth ni wedi bod yn cadw rownd y 53-54,000 o aelodau yn flynyddol, sydd yn ffigwr anhygoel," meddai.

"Ond yn sicr mi fyddan ni eisiau dweud erbyn 2022 bod gennon ni 100,000 o aelodau.

"Dw i'n hyderus yn y ffordd rydan ni yn gwneud y gwaith caib a rhaw ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn yma, trwy siarad gyda phobl, trwy wrando ar beth mae pobl yn ddweud a trwy roi buddsoddiad sylweddol i mewn yn ein systemau ni'n fewnol, dw i'n gweld bod ni mewn sefyllfa obeithiol iawn i fedru gwneud y cynnydd yma."

Ar faes yr eisteddfod ym mis Mai fe lansiodd y mudiad 'Sgwrs yr Urdd 2022' sef cyfle i siarad gyda phobl ifanc, rhieni a phlant a gwirfoddolwyr er mwyn deall mwy am eu bywydau a'u profiadau. Ym mis Mawrth bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ond mae'r brif weithredwraig yn barod wedi clywed barn rhai.

Yr adborth gan wirfoddolwyr fel yr athrawon mewn ysgolion ydy bod angen i'r Urdd gynnig mwy o gefnogaeth iddyn nhw.

Image copyright Irfon Bennett
Image caption Sioned Hughes gyda Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies A.C., yn Eisteddfod Sir y Fflint

"Maen nhw eisiau ychydig bach mwy o arweiniad falle, eisiau ychydig bach mwy o syniadau, eisiau bach mwy o gefnogaeth ar yr ochr weinyddol a dw i'n credu bod ni yn edrych ar sut allwn ni wneud hynny rŵan."

Nid siop siarad yw'r 'sgwrs', meddai, a'r bwriad ydy gwrando ar y prif negeseuon a chynnig aelodaeth newydd ym mis Medi'r flwyddyn nesaf.

Mae'n awyddus bod trafodaeth fel hyn yn parhau i ddigwydd yn gyson a bod y mudiad yn gallu "ymateb yn well i sylwadau pobl a bod yn fwy hyblyg" yn y dyfodol.

Lleisio barn

Heddiw mae 900 o glybiau'r Urdd yn bodoli yng Nghymru, boed hynny yn aelwydydd neu adrannau. Mae'n dweud bod y niferoedd efallai wedi lleihau dros y blynyddoedd ond bod yna fwy o aelwydydd yn cael eu sefydlu rŵan.

Ond mae'r cysylltiad gydag ysgolion hefyd yn hanfodol, meddai, ac mae'n awyddus i ddatblygu darpariaeth ddigidol yr Urdd.

Fe fydd mwy o gyfle i bobl ifanc leisio eu barn ar faterion sydd yn eu poeni, gyda mwy o bwyslais ar y panel o wirfoddolwyr sydd yn gwneud gwaith dyngarol hefyd yn y dyfodol.

"Dw i'n credu bod ni'n gweld bod nifer o bobl ifanc wedi siomi efo be ddigwyddodd gydag Ewrop er enghraifft, yn gweld be sy'n digwydd gyda phobl Syria, yn gweld ffoaduriaid a sut mae pobl yn ymateb," meddai Sioned Hughes.

"A dw i'n credu bod ni'n teimlo bod ni angen bod yn fwy gweithredol o ran rhoi fforwm i bobl ifanc fedru lleisio eu barn."

Image copyright Yr Urdd
Image caption Y brif weithredwraig a Rhodri Llwyd Morgan o Brifysgol Aberystwyth gyda thîm pêl-droed Ysgol Castell-nedd, wnaeth ennill cystadleuaeth pêl-droed cynradd cenedlaethol eleni

Mae hefyd eisiau ehangu ar y gweithgareddau awyr agored sydd yn cael eu cynnig, a'r ystod o gystadlaethau yn yr eisteddfod.

Mae'n dweud bod y sefydliad fydd yn 100 oed yn 2022 yn ddigon modern i blant heddiw ond bod angen cyfathrebu yn well yr hyn sydd yn cael ei gynnig.

"Dwi'n credu bod pobl gyda'r ddelwedd 'ma ohono fo, dosbarth canol, gwyn, Cymreig iawn. Ac mae o fyny i ni i ddangos i bobl bod ni yn datblygu ein cynnig ni, yn adeiladu ar beth sydd gennon ni.

Cyfathrebu'n well

"Dw i'n credu bod delwedd yr eisteddfod yn amlwg yn gryf iawn, a 'da ni yn ddiolchgar am hynny achos mae hi yn ffenest siop i'r mudiad.

"Lle 'dan ni yn canolbwyntio arni ydy i fod yn dweud ein stori ni yn well fel bod pobl yn deall beth ydy ein hamrediad eang o'n gweithgareddau ni.

"Achos dw i ddim yn credu mai mater o'n bod ni ond yn apelio at un math o berson ydy o erbyn hyn, ond bod ni falle ddim yn dweud ein stori cystal, ac mae hynny yn rhywbeth 'da ni yn gweithio arno fo ar hyn o bryd i'w gryfhau."