Ymchwilio wedi anafiadau gwraig Scott Gibbs yn Yr Eidal

Kate Weaver-Gibbs a Scott Gibbs Image copyright Kaidi Photography
Image caption Fe briododd Scott Gibbs a Kate Weaver-Gibbs yn 2014 yn Ne Affrica

Mae'r heddlu yn Yr Eidal wedi dechrau ymchwiliad i'r gwrthdrawiad achosodd anafiadau difrifol i wraig cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol.

Cafodd Kate Weaver-Gibbs, 32, anafiadau i'w phen a'i hasgwrn cefn pan gafodd ei tharo gan feic modur.

Mae Ms Weaver-Gibbs yn wraig i gyn-chwaraewr Cymru, Scott Gibbs, 45. Ni chafodd ef ei anafu yn y digwyddiad.

Mae Ms Weaver-Gibbs yn parhau yn yr ysbyty ond dywedodd heddlu'r Eidal bod llawdriniaeth diweddar wedi bod yn llwyddiannus.

Roedd y cwpl yn croesi ffordd yn Verona pan gafodd ei hanafu.

Image copyright Telearena
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad yn Verona yn Yr Eidal

Dywedodd Luigi Altamura o'r heddlu yno bod ymchwilwyr wedi defnyddio lluniau CCTV a lluniau o gamera ar fws i gasglu gwybodaeth am y digwyddiad.

Nid yw'r heddlu wedi aresio unrhyw un mewn cysylltiad â'r digwyddiad hyd yma.

Bydd adroddiad nawr yn cael ei baratoi i ynadon ei ystyried.

Priododd y cwpl yn 2014 yn Ne Affrica cyn symud i Colorado ac yna i Dde Affrica.

Chwaraeodd Gibbs 53 gwaith i Gymru ac roedd yn rhan o dair taith y Llewod cyn iddo ymddeol yn 2004.

Straeon perthnasol