Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-1 Wolves

Anthony Pilkington yn llongyfarch Matthew Connolly wedi'r gôl gyntaf Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Anthony Pilkington yn llongyfarch Matthew Connolly wedi'r gôl gyntaf

Cafodd tîm pêl droed Caerdydd gryn sioc o fewn dau funud i ddechrau eu gêm gartref yn erbyn Wolverhampton Wanderers.

Methodd gôl geidwad Caerdydd Ben Amos ddelio ag ergyd o bell gan Matt Doherty ac aeth Caerdydd ar ei hôl hi.

Pan ddechreuodd yr ail hanner roedd Neil Warnock wedi ysgwyd ei dîm ac fe ddaeth Craig Noone a Kenneth Zohore i'r maes.

Newidiodd y gêm a daeth dwy gôl - un i Matt Connolly o gic gornel ar ôl 68 munud ac yna ergyd isel gan Anthony Pilkington ar ôl 86 munud.

Mae Caerdydd bellach yn 19eg yn y Bencampwriaeth, gyda Wolves yn disgyn i'r 20fed safle.