Prop Cymru, Gethin Jenkins i fethu'r Chwe Gwlad wedi anaf

Gethin Jenkins Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'n debyg y bydd prop Cymru, Gethin Jenkins yn methu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf oherwydd anaf.

Mae prop y Gleision, sy'n 36 oed, wedi anafu ei fraich.

Dywedodd hyfforddwr y Gleision, Danny Wilson, bod Jenkins wedi cael llawdriniaeth ddydd Mawrth.

Jenkins yw capten y Gleision ond mae'n debyg na fydd yn gallu chwarae am dri mis wedi'r anaf.

Mae Jenkins, sydd wedi chwarae 129 o weithiau i Gymru, hefyd wedi bod yn gapten ei wlad ar sawl achlysur.

Mae gêm gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain ar 5 Chwefror.