Aston Martin gam yn nes at agor ei ffatri yn Sain Tathan

Sain Tathan Image copyright Llywodraeth Cymru
Image caption Mae rhan o awyrendy £113m Red Dragon yn Sain Tathan wedi cael ei brynu gan Aston Martin

Mae cwmni ceir Aston Martin gam yn nes at agor ei ffatri ym Mro Morgannwg ar ôl cyhoeddi ei bod wedi prynu tir ar gyfer y safle newydd.

Bydd y cwmni yn creu 750 o swyddi wrth i gar newydd y DBX crossover gael ei adeiladu yn Sain Tathan.

Yn gynharach eleni dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cymryd dwy flynedd i sicrhau'r cytundeb wrth iddyn nhw wynebu cystadleuaeth gan 20 o safleoedd ar draws y byd.

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar y ffatri yn 2017, gyda'r gwaith cynhyrchu i ddechrau yn 2020.

Image copyright Aston Martin
Image caption Bydd y car newydd yn rhedeg ar drydan ac mae disgwyl iddo gostio £160,000

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: "Dyma neges glir i gwmnïau ar draws y byd bod Cymru yn agored i fusnes.

"Rydym wedi creu yr amodau perffaith ar gyfer twf economaidd a helpodd i ddenu'r cwmni ceir unigryw ac arloesol hwn i dde Cymru.

"Mae cyhoeddiad heddiw [dydd Mercher] yn adlewyrchiad o'r hyder sydd gan fusnesau i ehangu yng Nghymru."