James Davies wedi'i wahardd am dair wythnos

James Davies Image copyright Huw Evans picture agency

Mae blaenasgellwr y Scarlets, James Davies wedi ei wahardd am dair wythnos yn dilyn gwrandawiad disgyblu yn Llundain ddydd Mercher.

Fe wnaeth Davies gyfaddef wrth y panel ei fod wedi rhegi a gwneud arwydd "anweddus" gyda'i ddwylo tuag at y dyfarnwr yn y gêm yn erbyn Toulon yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop ddydd Sadwrn.

Mae Davies wedi ymddiheuro am ei ymddygiad - mi allai fod wedi wynebu gwaharddiad o hyd at flwyddyn.

Mae hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac wedi dweud y bydd y rhanbarth yn ei ddisgyblu yn ogystal, a dywedodd nad yw'r clwb wedi diystyru ei ddiswyddo.

Mae'r gwaharddiad yn golygu y bydd yn methu'r gêm gartref yn erbyn Toulon a'r gornestau lleol yn erbyn y Gweilch a'r Gleision dros y Nadolig.

Mewn datganiad yn dilyn y gêm, dywedodd Davies: "Rydw i'n ymddiheuro i fy nghyd-chwaraewr, y Scarlets, fy nheulu a'r gymuned rygbi."

Fe wnaeth Davies, sy'n frawd i ganolwr Cymru, Jonathan Davies, ennill medal arian yng Ngemau Olympaidd Rio eleni fel rhan o dîm rygbi saith-bob-ochr Prydain.