Galw am weithredu wrth i wasanaethau ieuenctid brinhau

gwasanaethau ieuenctid Image copyright Thinkstock

Mae angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r dirywiad brawychus mewn gwasanaethau ieuenctid, medd un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Mae ymchwiliad i waith ieuenctid wedi clywed pryderon hefyd am ddiffyg arweiniad a strategaeth gan Lywodraeth Cymru.

Nodwyd ymhellach bod ariannu gwasanaethau ieuenctid gan gynghorau wedi gostwng bron i 25% yn ystod y pedair mlynedd diwethaf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, rhaid oedd gwneud "penderfyniadau anodd" oherwydd toriadau llywodraeth y DU.

Mae gan bob person ifanc yng Nghymru rhwng 11 i 25 oed hawl i wasanaeth ieuenctid fel mynediad i glybiau ieuenctid, canolfannau gwybodaeth a chynghori, neu brosiectau penodol ar strydoedd neu mewn lleoliadau cyhoeddus eraill.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae angen arweinyddiaeth strategol gan Lywodraeth Cymru medd pennaeth Youth Cymru, Helen Mary Jones.

Dywed Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad fod cwtogi cyllid gwasanaeth ieuenctid yn golygu bod llai o ieuenctid bellach yn ymgymryd â gweithgareddau sy'n cael eu cynnal gan y cynghorau.

Yn ystod 2015-16, fe ddaeth i'r amlwg fod awdurdodau lleol wedi cael gwared â 150 o swyddi gweithwyr ieuenctid - bron i un swydd ymhob pump.

O ganlyniad mae bron i draean o sefydliadau gwirfoddol i ieuenctid yn poeni na fydd modd iddyn nhw barhau wedi'r flwyddyn ariannol nesaf.

Mae'r Pwyllgor felly yn galw ar Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnal "trafodaethau brys" gyda chynrychiolwyr.

Nodwyd hefyd y dylai pobl ifanc fod yn rhan o'r trafodaethau ar y gwasanaethau ar eu cyfer.

Image copyright Thinkstock
Image caption Mae pryder, wrth i gynghorau lleol gael gwared â bron i 150 o weithwyr ieuenctid y llynedd

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Lynne Neagle AC: "Mae sicrhau bod holl bobl ifanc Cymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid yn hanfodol i'w cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial.

"Mae ein hymchwiliad yn dangos tuedd ar i lawr brawychus yn nifer ac amrywiaeth y gwasanaethau ledled y wlad.

"Credwn fod Llywodraeth Cymru yn wynebu her sylweddol i gyflwyno darpariaeth gwaith ieuenctid mynediad agored, cyffredinol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg."

Ychwanegodd mai model cenedlaethol yn cyfuno'r gwasanaethau sy'n cael ei ddarparu gan gynghorau a grwpiau gwirfoddol yw'r "dewis gorau os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch cyflwyno gwasanaeth sy'n hygyrch i bob person ifanc yng Nghymru."

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi rhoi £2.8m yn flynyddol i awdurdodau lleol i gefnogi gwaith ieuenctid ond bod toriadau i gyllideb y llywodraeth yn golygu ei bod wedi gorfod gwneud "penderfyniadau anodd."

"Rydym yn ymwybodol bod yn rhaid i ni addasu i'r her o gyllido ac fe fyddwn yn edrych ar sut y bydd gwaith ieuenctid yn cael ei gynnal yn ystod y flwyddyn nesaf," medd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Dylai awdurdodau lleol hefyd fod yn fwy arloesol ac edrych ar amrywiol ffyrdd o gynnal gwaith ieuenctid yn eu hardaloedd."

Image caption "Beirniadaeth arswydus," medd Llŷr Gruffydd AC

Meddai Llŷr Gruffydd, sy'n siarad ar faterion plant ar ran Plaid Cymru: "Dyma feirniadaeth arswydus ar sut y mae Llywodraeth Lafur yn delio â gwasanaeth ieuenctid yng Nghymru.

"Dyma enghraifft arall o ddiffyg canolbwyntio sydd yn golygu nad oes gan y sector ieuenctid ddigon o adnoddau - nid yw'n cael ei gwerthfawrogi ac mae'n teimlo'n bell."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg a phlant, Darren Millar: "Mae gwasanaethau ieuenctid yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod â'r gymuned at ei gilydd, gan gynorthwyo pobl ifanc wrth gyflawni eu potensial ac adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol fydd yn ddefnyddiol iddyn nhw fel oedolion.

"Bydd y penderfyniad byrolwg yma i dynnu arian yn ôl o'r sector yn golygu cost uwch yn hwyrach ymlaen."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi croesawu ymchwiliad y Pwyllgor, yn ogystal â chyfrannu ato, a bydd yn gyfraniad gwerthfawr i ddatblygu polisi gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru.

"Bydd angen i'r gymdeithas ystyried yr adroddiad a'r argymhellion gydag aelodau etholedig yn ofalus, a byddai'n croesawu trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru."