Mwy yn gofyn am help i'w hatal rhag mynd yn ddigartref

Person

Mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n gofyn i gynghorau i'w helpu rhag mynd yn ddigartref wedi cynyddu 26.5% ers i ddeddfwriaeth newydd gael ei chyflwyno'r llynedd.

Yn 2015/16, fe weithiodd awdurdodau lleol gyda bron 18,000 o breswylwyr tai, o'i gymharu gyda 13,000 yn 2014/15 pan oedd hen ddeddfwriaeth yn ei lle.

Roedd cwymp o 8.5% yn nefnydd llety dros dro a chwymp o 45% yn nefnydd llety gwely a brecwast.

Mae ffigyrau swyddogol hefyd yn awgrymu bod yr ymyrraeth gynnar yn golygu bod cynghorau yn delio â llai o breswylwyr tai sydd angen eu hailgartrefu yn gyflym.

Diffyg cysondeb

Mae Shelter Cymru yn croesawu'r arwyddion cynnar bod y ddeddfwriaeth yn gweithio ond yn dweud bod yna anghysondeb o hyd yn y gefnogaeth sydd yn cael ei rhoi i unigolion.

"Mae'n ymddangos bod yna 25% o gynnydd yn nifer y bobl sy'n mynd at eu hawdurdodau lleol i ofyn am help," meddai John Puzey o Shelter Cymru.

"Mae'r rhain yn bobl sydd un ai yn agos iawn at golli eu cartref neu wedi gadael eu cartref yn barod.

"Mae'r fframwaith cyfreithiol newydd a'r ffordd mae awdurdodau lleol yn ymateb yn golygu bod dros 60% o bobl fyddai wedi wynebu digartrefedd yn gallu osgoi hynny.

"Ond mae yna dal lot o bobl sydd yn wynebu digartrefedd ac fe fyddan nhw yn diweddu mewn llety sydd dros dro ac yn anaddas."