Abertawe yn colli mewn gêm allweddol

West Brom 3-1 Abertawe

Ar ôl ennill dwy o'u tair gêm olaf daeth rhediad gorau Abertawe'r tymor hwn i ben yn erbyn y tîm sy'n cael ei reoli gan y Cymro Tony Pulis.

Er i'r Elyrch gael fwy o feddiant yn yr hanner cyntaf daeth West Brom yn ôl yn yr ail hanner ac fe gafodd y tîm cartref eu gwobrwyo.

O fewn ugain munud cyntaf yr ail hanner roedd Solomon Rondon wedi sgorio tair gôl.

Cafodd chwaraewr Abertawe, Wayne Routledge, gôl wedi 78 munud ond roedd hi'n rhy ychydig, rhy hwyr.

Roedd amryw wedi disgrifio'r gêm fel un allweddol i'r ddau dîm.

Allweddol i Abertawe i adeiladu ar eu buddugoliaeth yn erbyn un arall o dimau gwaelod y tabl Sunderland yn eu gêm ddiwethaf, ac allweddol i West Brom wedi iddyn nhw golli o'r unig gôl yn erbyn y tîm ar frig y gynghrair Chelsea.

Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Elyrch felly yn dal i hofran tua gwaelodion y tabl. Ddydd Sadwrn mae taith hir i Middlesborough yn eu haros i wynebu tîm arall sy'n hanner isaf yr Uwch Gynghrair.