Apêl am wybodaeth wedi gwrthdrawiad angheuol

rtc markham Image copyright Google

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A4048 ger Markham brynhawn dydd Mercher.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Astra arian a Volkswagen Polo gwyn.

Bu farw gwraig 67 oed o ardal Caerffili yn y fan a'r lle.

Fe gafodd dyn 55 oed o ardal Crosskeys anafiadau difrifol a chafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent a dyfynu rhif 299 o 14/12/16.