Caplaniaeth iechyd meddwl gynta'r Eglwys yng Nghymru

caplaniaeth iechyd meddwl
Image caption Bydd caplaniaeth iechyd meddwl gyntaf yr Eglwys yng Nghymru yn Esgobaeth Llandaf

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi sefydlu ei chaplaniaeth iechyd meddwl gymunedol gynta', a hynny yn Esgobaeth Llandaf.

Mae'n fenter ar y cyd ag elusen Mind, ac yn cael ei harwain gan Sarah Harris, nyrs iechyd meddwl a gafodd ei phenodi'n gaplan iechyd meddwl gyda'r esgobaeth ym mis Hydref.

Dywedodd: "Rydym eisiau codi ymwybyddiaeth o fewn cymunedau ein heglwys a chreu llefydd diogel i bobl sy'n gadael yr ysbyty neu'r carchar a sydd â materion iechyd meddwl.

"Mae iechyd meddwl yn faes eang - bydd un o bob pedwar person yn datblygu problem iechyd meddwl bob blwyddyn, ac yn aml iawn fydd e ddim yn cael ei adnabod a fydd dim diagnosis.

"Byddwn ni'n sefydlu rhwydwaith o bobl o fewn ein heglwysi fydd wedi eu hyfforddi i ddelio â materion iechyd meddwl.

"Fe fydda i'n gweithredu fel pont i bobl sy'n dychwelyd i'n cymunedau eglwysig o'r ysbyty a'r carchar er mwyn rhoi croeso iddyn nhw.

"Yn aml iawn, dydy pobl yn y corau ddim yn gwybod beth i'w ddweud na'i wneud... felly dydyn nhw ddim yn gwneud dim byd, pan, yn aml iawn, y cyfan sydd angen iddyn nhw ei wneud yw dweud "bore da" a/neu gynnig paned o de."

Dywedodd yr hybarch Peggy Jackson, Archddiacon Llandaf: "Rydym wrth ein bod bod Sarah'n dechrau ar ei gwaith fel caplan iechyd meddwl cymunedol.

"Bydd gwaith Sarah yn galluogi plwyfi i fod yn fwy hyderus yn eu gwasaneth i bobl fregus, a bydd ein heglwysi'n llefydd mwy diogel a chreosawgar o fewn y gymuned."