Cwpan Her Ewrop: Caerfaddon 38-3 Gleision

Cory Allen Image copyright Huw Evans picture agency

Mae record ddiguro'r Gleision yn Grŵp 4 Cwpan Her Ewrop ar ben ar ôl iddynt gael eu chwalu yng Nghaerfaddon.

Daeth eu hunig bwyntiau yn y gêm o droed y maswr Steven Shingler.

Roedd yna bum cais i'r tîm cartref gan gynnwys un i'r Cymro Aled Brew ar yr asgell.

Fe wnaeth y Gleision dri o newidiadau ar gyfer y gêm, gyda Macauley Cook yn lle Seb Davies yn y rheng ôl, a Kirby Myhill yn lle Kristian Dacey yn safle'r bachwr. Cory Allen oedd ar yr asgell yn lle Alex Cuthbert.