Clwb Rygbi
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Rygbi: Cyfeillgarwch cyn herio'i gilydd dros yr ŵyl

16 Rhagfyr 2016 Diweddarwyd 20:30 GMT

Mae'r Nadolig yn prysur agosáu, sy'n golygu dim ond un peth i rygbi yng Nghymru - gornestau lleol!

Ond cyn iddyn nhw wynebu ei gilydd ar y cae, mae Hadleigh Parkes, Josh Turnbull, Nicky Smith ac Ashton Hewitt yn dangos eu bod yn gallu bod yn ddigon cyfeillgar oddi arno.

Pa ffordd well i groesawu'r ŵyl na chwarae gemau, bwyta gormod a disgyn i gysgu o flaen y tân?

Gallwch wylio Gweilch v Scarlets (14:30, 27 Rhagfyr) a Scarlets v Gleision (14:45, 1 Ionawr) yn fyw ar Clwb Rygbi ar S4C.