Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 22-7 Caerwrangon

Angus O'Brien Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd y Dreigiau wedi colli 33-20 i Gaerwrangon yr wythnos diwethaf

Llwyddodd y Dreigiau i dalu'r pwyth i Gaerwrangon am y golled yr wythnos diwethaf wrth sicrhau buddugoliaeth yn erbyn yr un gwrthwynebwyr ar Rodney Parade nos Wener.

Yr ymwelwyr roddodd y pwyntiau cyntaf ar y bwrdd ar ôl dim ond dau funud, gyda'r mewnwr Connor Braid yn croesi am gais a'i throsi ei hun.

Ond roedd y Dreigiau'n gyfartal bum munud yn ddiweddarach, gyda Tavis Knoyle yn croesi ac Angus O'Brien yn ychwanegu dau bwynt.

Fe drodd y pendil i gyfeiriad y tîm cartref ar ôl chwarter awr o chwarae, wrth i Sam Betty weld cerdyn coch yn dilyn ffrwgwd a Chaerwrangon yn gorfod chwarae gweddill y gêm â 14 dyn.

Ar ôl methu un cyfle at y pyst i roi'r Dreigiau ar y blaen, fe lwyddodd O'Brien gyda'i ail gic gosb ar ôl 25 munud.

Ond ni lwyddodd y naill dîm na'r llall i ychwanegu at y sgôr cyn yr egwyl, gyda'r bêl yn llithro o afael chwaraewyr yn rhy aml, ac O'Brien yn methu gôl adlam wrth i hanner amser agosáu.

O fewn deng munud i'r ail hanner roedd y Dreigiau ymhellach ar y blaen, gyda Tyler Morgan yn croesi yn y gornel ond O'Brien yn methu â'r trosiad.

Daeth trydedd cais funudau'n ddiweddarach, Sam Hobbs yn tirio ac O'Brien y tro hwn yn llwyddo gyda'i gic.

Ac felly yr arhosodd hi, gyda'r Dreigiau yn methu â sicrhau pwynt bonws ond yn codi i'r ail safle, y tu ôl i Brive, yng Ngrŵp 3 Cwpan Her Ewrop.