'Darganfod llys y Brenin Arthur' yng ngorllewin Sir Efrog

Delwedd ganoloesol o'r Brenin Arthur a Myrddin y dewin Image copyright Thinkstock
Image caption Mae lleoliad llys y Brenin Arthur wedi bod yn pwnc trafod cyson dros y canrifoedd

Mae pobl wedi bod yn pendroni am leoliad caer chwedlonol y Brenin Arthur ers dros 1,000 o flynyddoedd.

Ond nawr mae cyn-athro ym Mhrifysgol Bangor yn honni ei fod wedi darganfod gwir leoliad llys Camelot.

Mae nifer o leoliadau ar draws Cymru a Phrydain wedi cael eu cynnig yn y gorffennol, gan gynnwys Caerleon, Aberteifi a Thyddewi.

Ond mae'r Athro Peter Field yn dweud mai'r lleoliad tebygol yw caer Rufeinig fechan yn Slack, y tu allan i Hebden Bridge yng ngorllewin Sir Efrog.

Datrys dirgelwch?

"Hap a damwain oedd hyn. Roeddwn i'n edrych ar fap, ac yn sydyn roedd popeth yn gwneud synnwyr," meddai'r Athro Field, sydd yn arbenigo mewn llenyddiaeth Arthuraidd.

"Dw i'n meddwl mod i wedi datrys dirgelwch sydd yn mynd nôl 1,400 o flynyddoedd."

Yng ngyfnod y Rhufeiniaid roedd caer yn Slack o'r enw Camulodunum, sef "caer y Duw Camul" - enw wnaeth newid i Camelot dros amser.

Yn ystod cyfnod Arthur - tua 500 OC - byddai'r Brythoniaid wedi bod yn ymladd yr Eingl-Sacsoniaid oedd wedi goresgyn de a dwyrain ynysoedd Prydain.

Byddai Slack, oedd ar y ffordd Rufeinig rhwng Caer ac Efrog, wedi bod yn leoliad perffaith i amddiffyn y gorllewin a'r gogledd yn ogystal ag arfordir y dwyrain.

Image copyright GEOGRAPH/ RICHARD KAY
Image caption Ai Slack oedd cartre' Arthur?

Bu'r Athro Field yn dysgu ym Mangor rhwng 1964 a 2004, ac mae wedi bod yn ymchwilio i leoliad Camelot ers 18 mis.

"Os oedd 'na Frenin Arthur go iawn byddai wedi byw tua 500 OC, er bod y cyfeiriad cyntaf ato yn Camelot yn dod o gerdd Ffrengig o ardal Champagne yn 1180," meddai.

"Does dim sôn am Camelot yn y cyfnod rhwng y dyddiadau hyn, yr Oesoedd Tywyll, pan oedd y wlad yn rhyfela, ac ychydig iawn oedd yn cael ei gofnodi.

"Yn y bwlch yma roedd pobl yn pasio gwybodaeth, ond byddai llawer wedi ei golli wrth ei drosglwyddo, ac fe allai pobl fod wedi dyfeisio ffeithiau neu newid gwybodaeth."