'Synnu' gyda'r cynnig bod y Swyddfa Gymreig yn ariannu S4C

Peter Walker
Image caption Roedd Peter Walker yn Ysgrifennydd Cymru rhwng 1987 a 1990

Cafodd cynlluniau i'r Swyddfa Gymreig ariannu S4C yn yr 80au yn hytrach na'r Swyddfa Gartref eu gwrthod gan Ysgrifennydd Cymru ar y pryd.

Papurau llywodraeth yn 1989 sydd yn datgelu hyn.

Dywedodd Peter Walker yn "blwmp ac yn blaen" ei fod wedi ei "synnu" gan y cynnig gan y trysorlys.

Byddai symudiad o'r fath yn golygu y byddai S4C "ormod yn rhan o'r tir gwleidyddol" meddai.

Dywedodd Mr Walker ei fod eisiau darlledu yng Nghymru i barhau yn fater oedd wedi ei "dawelu yn llwyddiannus".

Yn 1980, dywedodd y cyn AS Plaid Cymru, Gwynfor Evans y byddai'n llwgu i farwolaeth oni bai bod y llywodraeth yn darparu sianel deledu Cymraeg.

Roedd y Ceidwadwyr a'r blaid Lafur wedi rhoi addewid y bydden nhw'n creu'r sianel pe bydden nhw'n ennill yr etholiad cyffredinol yn 1979.

Fe benderfynodd y blaid Geidwadol ar ôl eu buddugoliaeth i beidio bwrw ymlaen gyda'r cynllun.

Image caption Llythyr Peter Walker i Norman Lamont

Ond fe wnaethon nhw gadw at eu gair yn y pendraw gan ddweud eu bod yn ofni "awyrgylch anodd a dwysach yn emosiynol" yng Nghymru pe byddai Mr Evans yn mynd yn sâl neu'n marw.

Cyn datganoli yn 1999 roedd y Swyddfa Gymreig, sydd nawr yn cael ei galw yn Swyddfa Cymru, yn adran o fewn llywodraeth Prydain oedd yn gyfrifol am bolisïau cyhoeddus allweddol yng Nghymru, gan gynnwys iechyd ac addysg.

Ysgrifennydd Cymru oedd wrth y llyw.

Yn y papurau, gafodd eu cyhoeddi ddydd Gwener, dywedodd Mr Walker: "Rydyn ni wedi llwyddo i dawelu'r sefyllfa darlledu fel mater gwleidyddol yng Nghymru yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf a does gen i ddim dyhead i weld hyn yn codi ei ben eto."

Wrth ymateb awgrymodd y Prif Ysgrifennydd i'r trysorlys, Norman Lamont y byddai'r Swyddfa Gymreig mewn sefyllfa well i symud arian o S4C i wasanaethau cyhoeddus eraill.

Image caption Fe roddodd Gwynfor Evans bwysau ar y llywodraeth yn San Steffan i gadw at ei gair a sefydlu sianel S4C

"Prif fantais fy nghynnig - bod y Swyddfa Gymreig yn derbyn cyfrifoldeb am ariannu S4C - oedd y byddech chi yn gallu barnu pryd i ail edrych ar y fformiwla wnaethon ni gytuno a throsglwyddo adnoddau rhwng S4C a gweithgareddau eraill wedi eu hariannu gan y Swyddfa Gymreig."

Ond dywedodd ei fod yn deall pryderon Mr Walker ac fe gytunodd y dylai'r swyddfa gartref barhau i ddarparu'r arian.

Mewn cyfres o lythyrau mae Mr Walker yn dweud bod ganddo "ddiddordeb amlwg" mewn darlledu ond mai'r swyddfa gartref oedd yn gyfrifol am y mater.

Ychwanegodd nad dim ond pryderon gwleidyddol oedd ganddo: "Ar lefel ymarferol, dyw fy adran ddim gyda'r adnoddau ar hyn o bryd i gymryd cyfrifoldeb fel hyn a does gen i ddim y pwerau angenrheidiol chwaith."

Dywedodd hefyd: "Dw i'n gobeithio yn fawr eich bod chi'n cytuno gyda fi bod y rhain yn rhesymau digonol i fi wrthsefyll hyd yn oed yr awgrym y dylai swyddogion gyfarfod i drafod hyn."

Fe orffennodd ei lythyr gan ddweud ei fod yn anfon copi at y Prif Weinidog ar y pryd, Margaret Thatcher.

Image caption Pencadlys S4C yng Nghaerdydd heddiw

Fe ddywedodd Mr Lamont ei fod yn "fodlon cytuno" gyda Mr Walker y byddai caniatáu hyn yn gallu arwain at ddadl angerddol ynglŷn â darlledu yng Nghymru".

Yn 2013 cafodd prif gyfrifoldeb ar gyfer ariannu'r sianel ei throsglwyddo i'r BBC trwy ffi'r drwydded.

Mae S4C yn derbyn £6.7m y flwyddyn gan lywodraeth San Steffan ar hyn o bryd, gyda mwyafrif ei chyllideb sef £80m yn dod o ffi'r drwydded.