Codi cerflun ym Mangor i nodi cyfraniad Wilbert Lloyd Roberts

Cerflun Wilbert Lloyd Roberts Image copyright Bangor University

Mae cerflun newydd i un o arloeswyr y theatr yng Nghymru wedi cael ei ddadorchuddio yng Nghanolfan Pontio ym Mangor.

Ddwy flynedd a hanner yn ôl fe gafodd apêl ei lansio i hel arian i godi cerflun i goffáu a nodi cyfraniad Wilbert Lloyd Roberts i fyd y theatr.

Roedd e'n allweddol wrth sefydlu Theatr Gwynedd - rhagflaenydd Pontio - ym 1975.

Cafodd y cerflun gorffenedig gan yr artist lleol Nick Elphick ei ddadorchuddio nos Sul.

"Rydw i mor falch o fod wedi cael fy nghomisiynu i wneud y portread o Wilbert, gafodd ddylanwad mor anhygoel ar ddiwylliant yng Nghymru," meddai'r artist, wnaeth greu'r cerflun yn ei stiwdio yn Llandudno.

Roedd y dadorchuddiad yn rhan o noson o ddathliadau yn y ganolfan, sy'n cynnwys cyngerdd gan Gôr Glanaethwy.

Pan oedd Pontio'n cael ei adeiladu, roedd rhai am weld Wilbert Lloyd Roberts yn cael ei anrhydeddu drwy enwi theatr y ganolfan ar ei ôl - ond cafodd ei henwi ar ôl Bryn Terfel yn y diwedd.

Image caption Roedd Wilbert Lloyd Roberts yn gynhyrchydd drama gyda'r BBC ac yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Cymru