Carwyn Jones: Llywodraeth Prydain 'yn naïf' am Brexit

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae llywodraeth Theresa May yn "naïf" am dyfodol Prydain ac Ewrop, medd Carwyn Jones

Mae prif weinidog Cymru wedi cyhuddo gweinidogion Llywodraeth y DU o fod yn "naïf" am sut berthynas fydd gan Brydain a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

Dywedodd Carwyn Jones bod angen i'r llywodraeth "ailddysgu'r modd o fod yn ddiplomataidd" a bod yn "aeddfed" a "realistig" yn ystod y trafodaethau am Brexit.

Mae Theresa May wedi addo dechrau'r broses o adael yr UE erbyn diwedd mis Mawrth 2017.

Fe ddywedodd llefarydd bod Llywodraeth y DU yn mynd i'r trafodaeth gyda'r UE "mewn ysbryd o ewyllys da" a'u bod am weld perthynas sy'n "gweithio i'r ddwy ochr".

'Dim pwynt sgrechen'

Yn siarad ar raglen Sunday Politics Wales, dywedodd Carwyn Jones mai ef yw'r pen llywodraeth sydd wedi gwasanaethu hiraf o arweinwyr holl lywodraethau'r DU, a'i fod yn pryderu am "naïfrwydd" rhai o weinidogion newydd llywodraeth Theresa May.

"Mae rhaid ailddysgu'r modd o fod yn ddiplomataidd, [rhywbeth] oedd ganddon ni ar un adeg," meddai.

"Does dim pwynt sgrechen ar bobl, dwi'n credu bod rhai yn y Torïaid yn credu os 'ych chi'n sgrechen ar estroniaid fe gewch chi'ch ffordd. Nage fel 'na ma'i.

"Mae'n rhaid i ni fod yn aeddfed, ac yn realistig, er mwyn sicrhau y canlyniad gorau i Gymru, i'r Deyrnas Unedig ac wrth gwrs i weddill Ewrop."

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd Llywodraeth y DU: "Fel mae'r Prif Weinidog eisoes wedi dweud, rydyn ni'n benderfynol i gael y fargen orau bosib ar gyfer y DU i gyd wrth i ni adael yr UE.

"Rydyn ni hefyd wedi bod yn glir ein bod yn chwilio am bartneriaeth gyda'r UE sy'n gweithio i'r ddwy ochr, ac rydyn ni'n mynd tuag at y trafodaethau hyn mewn ysbryd o ewyllys da.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'r llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau ein bod yn gwneud Brexit yn llwyddiant."

Cymunedau difreintiedig 'i elwa'

Yn gynharach ddydd Sul, dywedodd ysgrifennydd Cymu y gallai Brexit fod o fudd i gymunedau difreintiedig doedd ddim yn gymwys am arian Ewropeaidd yn y gorffennol.

Ar raglen y Sunday Supplement, dywedodd Alun Cairns bod gadael yr UE yn gyfle i "ailsiapio" y ffordd mae cronfeydd strwythurol yn cael eu gwario yng Nghymru.

Mae ardal Gorllewin Cymru a'r Cymoedd - y rhan o'r wlad sy'n gymwys am lefel uwch o gymorth gan yr EU - wedi derbyn £4bn gan Frwsel mewn 16 mlynedd.

Ond dywedodd Mr Cairns bod rhannau difreintiedig eraill o'r wlad wedi eu hesgeuluso, a bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfle i "osod blaenoriaethau Prydeinig i gefnogi'r cymunedau hynny fel y maen nhw eisiau, nid fel y mae biwrocratiaid ym Mrwsel eisiau."