Y Bencampwriaeth: Caerdydd 3-4 Barnsley

Josh Scowen Image copyright Rex Features
Image caption Josh Scowen yn sgorio ail trydydd gôl Barnsley

Colli wnaeth Caerdydd mewn gêm gynhyrfus yn y brifddinas.

Ar ôl mynd ar ei hôl hi, llwyddod yr Adar Gleision i ddod 'nôl a'i gwneud hi'n 3-3, cyn i Ryan Williams fachu buddugoliaeth i'r ymwelwyr gydag eiliadau ar ôl.

Dechreuodd pethau'n dda i'r tîm cartref, gyda Sean Morrison yn rhwydo gyda'i ben ar ôl tri munud.

Ond aeth Barnsley ymlaen i reoli gweddill yr hanner cyntaf, gyda Sam Winnall yn penio i unioni'r sgôr cyn rhoi ei dîm ar y blaen ar ôl 32 munud.

Dau funud cyn diwedd yr hanner, fe sgoriodd Josh Scowen i goroni gwrthymosodiad sydyn.

Ond daeth Caerdydd yn ôl tua diwedd ail hanner. Fe sgoriodd Peter Whittingham - gyda help gwyriad oddi ar amddiffynwr - cyn i Anthony Pilkington ei gwneud hi'n 3-3 ar ôl 89 munud.

Gyda phwynt gwerthfawr o fewn eu gafael, daeth Williams a'i droed chwith i dorri calon Caerdydd.

Mae'r Adar Gleision bellach yn yr 20ed safle yn y Bencampwriaeth.