Adran 2: Crawley 3-1 Casnewydd

Aeth pethau'n flêr rhwng y timau Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Aeth pethau'n flêr rhwng y timau yn Crawley

Bydd Casnewydd ar waelod eu hadran dros y Nadolig, ar ôl iddyn nhw golli yn Crawley.

Aeth Crawley ar y blaen gyda pheniad gan James Collins ar ôl tri munud.

Yn hwyrach yn yr hanner cyntaf, daeth Casnewydd yn ôl gyda Joss Labadie yn unioni'r sgôr o ymyl y cwrt cosbi.

Ond gyda goliau gan Josh Yorwerth a Jimmy Smith, aeth y tîm cartre' ymlaen i reoli'r gêm.

Methodd Josh Sheehan gic o'r smotyn i Gasnewydd i gloi gornest flêr ble gafodd 13 o chwaraewyr gerdyn melyn.