Y Gynghrair Genedlaethol: Sutton United 1-0 Wrecsam

BBC

Dydi Wrecsam heb ennill ers chwe gêm yn y gynghrair ar ôl iddyn nhw golli oddi cartref yn erbyn Sutton United.

Roedd yr ymwelwyr ar ei hôl hi ar ôl pedwar munud, pan wnaeth Martin Riley rwydo i'w gôl ei hun.

Daeth Curtis Tilt a Jordan White yn agos i unioni'r sgôr, ond daliodd Sutton ymlaen i fynd â'r triphwynt.

Mae Wrecsam yn y 15ed safle yn y tabl.