Cwpan Her Ewrop: Gweilch 71-3 Grenoble

cais Image copyright Huw Evans picture agency

Fe sgoriodd y Gweilch 11 o geisiau mewn buddugoliaeth enfawr dros Grenoble yng Nghwpan Her Ewrop.

Aeth yr ymwelwyr o Ffrainc ar y blaen wedi tri munud diolch i gic gosb Gilles Bosch, ond tarodd y Gweilch nôl gyda chais gan Olly Cracknell.

Wedyn fe agorodd y llifddorau, gyda Dan Evans, Hanno Dirkson a Scott Baldwin yn sgorio dau gais yr un, ac Ashley Beck, Brendon Leonard a Dan Biggar i gyd yn sgorio un.

Gyda Biggar hefyd yn trosi wyth gwaith, mae'r Gweilch ar frig eu grŵp gyda dwy gêm i fynd.