Ailagor yr A55 wedi i gar fynd ar dân brynhawn Sul

Car fire and traffic on the A55 Image copyright @ponciau1/Twitter

Fe aeth car ar dân ar yr A55 brynhawn Sul, gan achosi tagfeydd i'r ddau gyfeiriad.

Roedd y ffordd wedi cau ger cyffordd 29, ond bellach mae pob lôn ar agor.

Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod wedi eu galw i'r digwyddiad am 11:40 a bod timau o'r Rhyl a Threffynnon wedi ymateb.

Ychwanegon nhw bod dim anafiadau yn sgil y tân.

Roedd ceffyl hefyd yn rhydd yn ardal cyffordd 30 am gyfnod.

Image copyright @proberts88/Twitter