Cyhuddo dyn o ladd Cymro o Wrecsam fu farw yn Lerpwl

Paul Groom Image copyright Heddlu Glannau Mersi

Mae dyn o Lannau Mersi wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Cymro o Wrecsam.

Bu farw Paul Groom, 48 oed, yn yr ysbyty ar 10 Rhagfyr, rai dyddiau ar ôl iddo gael ei ganfod gydag anafiadau yn ei gartref yn Fazakerley, Lerpwl.

Yn ôl prawf post-mortem, bu farw Mr Groom o drawma i'w ben.

Bydd Michael Hill, 32 oed o Kirkby, Glannau Mersi, yn mynd gerbron ynadon ddydd Llun.