Cwpan Pencampwyr Ewrop: Scarlets 22-21 Toulon

cais Image copyright Getty Images

Roedd hi'n brynhawn hanesyddol ar Barc y Scarlets, gyda'r tîm o Lanelli'n trechu'r cewri o Toulon yng Nghwpan y Pencampwyr.

Ond cael a chael oedd hi, gyda maswr yr ymwelwyr - y Cymro Leigh Halfpenny - yn methu cic gosb hwyr fyddai wedi cipio'r pwyntiau i'w dîm.

Scott Williams sgoriodd unig gais y gêm yn ystod yr hanner cyntaf, ac roedd y Scarlets yn ennill o 16-9 ar yr hanner.

Cyfraniad y ddau giciwr oedd amlycaf, gyda Rhys Patchell yn sgorio 17 pwynt gyda'i droed, a Halfpenny yn sgorio holl bwyntiau Toulon.

Ond fe fethodd Halfpenny bedair cic tuag at y pyst, gan gynnwys yr un dyngedfennol ym munud ola'r ornest.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod y Scarlets yn drydydd yn grŵp 3, dau bwynt tu ôl i Toulon.

Image copyright Huw Evans Agency