Dyn yn pledio yn euog i lofruddio cwpl yng Nghaerdydd

Andrew Saunders Image copyright Matthew Horwood

Mae dyn wedi pledio yn euog i lofruddio dau berson yng nghanol Caerdydd.

Bu farw Zoe Morgan, 21 oed, a Lee Simmons, 33, ym mis Medi ar ôl iddyn nhw gael eu trywanu ar Heol y Frenhines yng Nghaerdydd.

Cafodd Andrew Saunders, 20, ei arestio yn dilyn yr ymosodiad.

Plediodd Mr Saunders yn euog i'r cyhuddiad o lofruddio mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd fore Llun.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa, a bydd yn cael ei ddedfrydu yn y flwyddyn newydd.

Image copyright Facebook
Image caption Bu farw Lee Simmons a Zoe Morgan yn dilyn ymosodiad ger siop Matalan yn y brifddinas