"Dim coeden, a fawr ddim arian"

Katey Pilling a'i merch Ellie Image copyright Katey Pilling
Image caption Katey Pilling a'i merch Ellie

Wrth i'r Nadolig agosáu bydd teuluoedd ar draws Cymru yn edrych ymlaen at fwynhau cwmni teulu a ffrindiau a llenwi eu boliau yn eu tai clyd a chynnes wrth iddi rewi y tu allan.

Ond breuddwyd yw moethusrwydd o'r fath i'r miloedd o deuluoedd sy'n treulio'r ŵyl yn ddigartref. Ac iddyn nhw, mae'r oerfel y tu allan yn brathu.

Un a brofodd hynny oedd Katey Pilling, 37, o Lanwnnen yng Ngheredigion a'i merch Ellie, a oedd yn bump oed ar y pryd. Bu'n siarad â BBC Cymru Fyw am ei phrofiadau:


'Teimlo fel neb'

Roedd Katey Pilling yn sâl ac wedi cael diagnosis o syndrom lludded cronig (ME) a olygai nad oedd hi'n gallu gweithio.

Yna cafodd wybod gan berchennog y cartref yr oedd hi'n ei rentu ei fod am iddi hi a'i merch adael cyn gynted a bo modd.

"Mae bod yn ddigartref yn chwalu'r enaid, mae'n brofiad erchyll, ac yn gwneud i chi deimlo fel eich bod yn fethiant," meddai.

"Mae'r pwysau i ddarparu yn fawr, a phan nad ydych chi'n gallu gwneud hynny, ry'ch chi'n teimlo fel eich bod chi'n neb."

Roedd mynd o un annedd dros dro i un arall, heb allu galw'r un man yn gartref, wedi cael effaith seicolegol parhaol arni hi a'i merch, meddai.

"Un o'r pethau anoddaf i fi oedd y diogelwch, a'r diffyg rheolaeth oedd gyda fi ynglŷn â hynny," meddai.

"Do'n i byth yn gwybod pwy arall fyddai yn y tŷ, ro'n i'n cael hunllefau am ddieithriaid yn mynd mewn i ystafell fy merch yn y nos - ac y bydden i methu ei gwarchod hi.

"Do'n i ddim yn gallu gadael ei drws hi ar agor, na chwaith yn gallu cloi ei drws hi.

"Datblygodd Ellie broblemau cysgu, lle'r oedd hi'n cael anhawster i gysgu, a byddai hi'n dihuno yn eithriadol o gynnar, ta pa mor hwyr oedd hi'n mynd i'r gwely.

"Rwy'n gwybod bod hynny wedi digwydd yn sgil ansicrwydd, ynghyd â'r sŵn yn y tŷ gan bobl eraill.

"Tan heddiw, mae'n cael trafferth mawr i gysgu, ac ambell noson, cheith hi ddim winc o gwsg."

Image caption Bydd dros 1,000 o blant yn ddigartref yng Nghymru y Nadolig hwn, yn ôl Shelter Cymru

Dim addurniadau

Mae'n cofio'r Nadolig cyntaf yn ddigartref i'r byw. Roedd hi a'i merch yn aros mewn lloches yn Llanbedr Pont Steffan.

Roedd y Nadolig yna'n ofnadwy o anodd, meddai, a doedd ganddi ddim syniad ar sut fyddai hi a'i merch yn llwyddo i 'ddathlu'.

"Doedd gyda ni ddim addurniadau, dim coeden, a fawr ddim arian. Mynediad bychan oedd gyda ni i'r gegin hefyd," meddai.

"Ro'n i eisiau i'r Nadolig fod mor normal â phosib i Ellie, ond doedd dim syniad gyda fi sut i gyflawni hynny.

"Wnes i lwyddo i gael ychydig bach o addurniadau, ond dim hanner digon, a doedd dim gobaith cael llond sach o anrhegion.

"Roedd e'n torri fy nghalon i weld fy merch fach i'n gorfod byw fel hyn. Ond doedd hi ddim yn gwybod yn wahanol.

"Fe wnes i fy ngorau i wneud pethau'n hwyl iddi, ond roedd yr holl beth mor ddigalon, pan ddylen i fod yn llawn o hwyl yr ŵyl.

"Y cyfan o'n i'n gallu meddwl amdano oedd fy mod i'n sbwylio pethau i fy merch i, ac yn ei gadael hi i lawr."

Y Nadolig hynny, yn y tŷ dros dro, mae hi'n cofio mynd i weld Ellie yn yr oriau man, i ddweud Nadolig Llawen.

"Ond y cyfan weles i oedd pentwr o bapur lapio, ac Ellie yn cysgu'n sownd yn ei gwely! Rhaid ei bod hi wedi dihuno bach cynt a gweld bod Siôn Corn wedi bod!"

Image caption Breuddwyd yn unig oedd coeden ac anrhegion i Katey ac Ellie pan roedden nhw yn ddigartref

Y daith ar ben

Ar ôl gorfod gadael eu cartref gwreiddiol, bu'r ddwy yn byw mewn gwely a brecwast yng Nghei Newydd am ychydig wythnosau, cyn symud i'r lloches yn Llanbed.

Roedd colli eu cartref hefyd yn golygu ffarwelio â hen ffrind.

"Roedd arian yn dynn, felly doedd dim gobaith gyda fi i safio arian i dalu rhent yn rhywle arall a rhoi bond i lawr mewn lle newydd," meddai.

"Wnes i drio pacio cymaint oedd gyda ni, ond roedd hi'n anodd dros ben yn sgil fy salwch. Ac ar ben hynny, fe ddywedodd y cyngor na fyddwn ni'n gallu mynd a Sid, ein ci ni, gyda ni.

"Doedd neb o'r teulu na ffrindiau yn gallu ei gael, ro'n i wedi danto'n llwyr. Nid yn unig ro'n ni ar fin colli ein cartref, ond ein cyfaill oes ni hefyd!"

Diolch byth, meddai, fe wnaeth noddfa anifeiliaid lleol gynnig ei warchod am ddim tan i ni ffeindio cartref addas eto.

"Sa i'n siŵr beth fydden i wedi gwneud heb eu help nhw, os dw i'n onest. Roedd e'n beth hael iawn," meddai.

Dim ond pump oed oedd Ellie ar y pryd, a chyfaddefa bod byw mewn tlodi wrth fagu ei merch yn torri ei chalon.

"Roedd e'n anodd iawn, doedd dim hawl gyda ni i fwyta yn yr ystafell, a doedd dim cyfleusterau i goginio dim byd.

"Felly roedd popeth ro'n ni'n eu bwyta'n frechdanau neu'n fwyd cludo. Doedd e ddim yn ffordd iach o fyw o gwbl."

Yma i aros

Ar ôl treulio chwe wythnos yng Nghei Newydd, fe wnaeth y ddwy symud i dŷ yn Llambed. Llety a oedd yn arbennig i deuluoedd a oedd yn ddigartref.

"Dim ond ni oedd yno i ddechrau, yna fe ddaeth teulu arall. Aeth pethau'n anodd wedyn oherwydd y sŵn, ac roedden nhw'n cael partïon, ac yn gadael i lot o bobl ddod mewn i'r ardaloedd lle ro'n i'n rhannu.

"Roedd hynny'n ofid mawr achos do'n i ddim yn eu hadnabod nhw, a ro'n i'n gorfod addasu rownd y teulu arall."

Eto, oherwydd bod angen rhannu'r gegin, roedd y ddwy yn aml yn gorfod dibynnu ar brydiau parod.

"Roedd ein holl arian yn mynd ar fwyd, a dim gobaith trio safio i gael tŷ ein hunain."

Erbyn hyn roedden nhw wedi bod yn ddigartref ers chwe mis, a doedd hi ddim wedi rhagweld hynny o gwbl, meddai.

Image copyright Katey Pilling
Image caption Ellie yn dathlu ei phen-blwydd cyntaf yn ei chartre newydd yn Llanwnnen

Ar ôl dwy flynedd o fod yn ddigartref, daeth llythyr o'r diwedd, yn cynnig byngalo. Doedd dim angen gofyn dwywaith, meddai.

"Ry'n ni wedi bod yn ein byngalo bach ni ers naw mlynedd a hanner nawr, mae fy merch fach i wedi tyfu'n ddynes ifanc, ac yn astudio Lefel A mewn coleg lleol.

"Wrth gwrs, mae yna brydiau pan dw i wedi dyheu am gael lle mwy o faint, ond mae sicrwydd ein cartref yn werthfawr iawn i ni, a ry'n ni'n ddiolchgar iawn bod hawl gyda ni i aros yma cyn hired â phosib. Dyma le fyddwn ni."

Stori: Llinos Dafydd