Swyddi cyhoeddus: Galw i 'symud mwy i Wynedd'

Seimon Brooks
Image caption Mae Seimon Brooks yn gynghorydd tref ac ymgyrchydd iaith

Fe ddylai Llywodraeth Cymru ad-leoli pencadlys un o'i chyrff cyhoeddus i Wynedd fel ffordd o arafu'r nifer y bobl ifanc sy'n gadael y sir i chwilio am waith.

Dyna mae'r cynghorydd tref ac ymgyrchydd iaith, Simon Brooks wedi dweud wrth BBC Cymru.

Ychwanegodd bod hyn yn ganlyniad anfwriadol datganoli.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yna 100 o swyddi ei gwasanaeth sifil yng Ngwynedd yn barod.

'Rhaid ni wynebu'r gwir'

Dywedodd Seimon Brooks y byddai'n hoffi gweld y sector cyhoeddus yn "wynebu'r cyfrifoldeb."

"Dio ddim yn deg bod ni'n rhoi y swyddi cyhoeddus da i gyd yng Nghaerdydd. Dylsen ni gael rhai ohonyn nhw yng Nghaernarfon a Phorthmadog a Blaenau Ffestiniog.

"Da ni'n colli gormod o bobl ifanc i Gaerdydd ers datganoli, dyna'r gwir, mae rhaid ni wynebu'r gwir, a dwi meddwl bod rhaid neud rhywbeth amdana fo.

"Beth dylsen ni wneud ydi symud rhai swyddi cyhoeddus 'nol i'r gogledd orllewin...a hefyd dylse fod ganddon ni gynllun datblygu economaidd."

Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfed Edwards yn dweud mai cadw pobl ifanc yn y sir ydi un o'r heriau mwyaf sy'n eu hwynebu nhw.

"Dyma un o'r heriau mwyaf...ydi'r llif cyson yna o bobl ifanc talentog sydd yn penderfynu mynd i ardaloedd eraill, oherwydd natur y gymdeithas, oherwydd cyfleon gwaith.

"Os nad da ni'n llwyddo i wneud hynny fe fydd ganddon ni anghydbwysedd yn y boblogaeth, lle fydd ganddon ni garfan o bobl hŷn yn cynyddu a diffyg pobl ifanc, a'r bobl ifanc yna sy'n mynd i fod yn arweinwyr ein cymunedau a'r gymdeithas i'r dyfodol."

Herio meddylfryd

Mae yna naw corff cyhoeddus dan adain Llywodraeth Cymru, pob un a phencadlys unai yng Nghaerdydd neu Aberystwyth.

Ar ben hynny, mae dwsinau o gyrff eraill sy'n derbyn nawdd cyhoeddus wedi eu lleoli yn y brifddinas.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i sicrhau fod pobl yng Ngwynedd yn elwa o swyddi y sector cyhoeddus, ac ers datganoli fod nifer helaeth o swyddi wedi symud i ogledd Cymru gan gynnwys 100 yng Ngwynedd.

Ychwanegodd y gallai pencadlys Banc Datblygu Cymru fod yn y gogledd pan ddaw i rym.

Mae Dafydd Gruffydd yn gweithio i Arloesi Gwynedd, sy'n ceisio helpu cadw pobl ifanc yn eu cymunedau gwledig.

Mae e'n dweud ei bod hi'n gallu bod yn anodd perswadio pobl ifanc bod na chyfleoedd a swyddi yn yr ardal.

"Dyw hi ddim yn golygu bod yna ddim cyfleon ar gael, a wedyn weithiau mae angen herio'r meddylfryd yna bod 'na ddim cyfleoedd gwaith swyddi gwerth uchel mewn llefydd fatha Gwynedd a Môn."

Image caption Mae cyfleoedd ar gael yng Ngwynedd, meddai Dafydd Williams

Mae Dafydd Williams newydd gwblhau cwrs gradd Meistr yn Llundain ac wedi dychwelyd i Bwllheli i chwilio am waith.

Mae'n gweithio yn y diwydiant gemau arlein ar Barc Menai ger Bangor, ac yn credu bod rhai pobl ifanc yn rhy barod i fynd i'r trefi mawr a'r dinasoedd i chwilio am waith heb weld beth sydd ar gael yn lleol.

"Mae yma gyfleon yma, fe allan nhw fod yn fwy anodd i'w ffeindio, ond mae nhw yn sicr yma," meddai.