Her nesaf yr anturiaethwr ifanc o Gymru, Tybalt Peake

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Blas o'r daith drwy'r Arctig a Thramwyfa'r Gogledd Orllewin

Blwyddyn wedi iddo ddod y person ieuengaf i hwylio Tramwyfa'r Gogledd Orllewin (North West Passage), does dim stop ar ddyn ifanc o Gapel Curig sy'n cynllunio ei antur nesaf ar ôl blwyddyn o gyffro.

Ar ôl torri record byd mae Tybalt Peake, 16, yn edrych ymlaen at her fwy personol ar gyfer 2017.

Mae'n bwriadu dilyn ôl troed ei gyn-daid, y mynyddwr enwog, Yr Arglwydd Francis Douglas, i goncro mynydd y Matterhorn.

Yr Arglwydd Douglas oedd y person cyntaf mewn hanes i gyrraedd copa'r mynydd yn 1865 ond bu farw ar ei ffordd i lawr ac mae ei gorff dal ar y mynydd mewn rhewlif.

Mae cerdded mynyddoedd a bod yn yr awyr agored wedi bod yn rhan o fywyd Tybalt ers iddo ddechrau cerdded.

Mae ei fam, Y Fonesig Alice Douglas, yn hanu o deulu bonedd y Marcwis o Queensberry.

Mae hi'n rhedeg busnes gwely a brecwast sydd yn boblogaidd gyda cherddwyr yn ardal fynyddig Capel Curig, Sir Conwy, ac yma hefyd mae Tybalt a'i chwaer fawr Hero wedi eu magu.

Image copyright Tybalt Peake
Image caption Tybalt ar fwrdd Snowdragon II yng nghanol yr Arctig
Image copyright Tybalt Peake

Dianc o'r ysgol

"Ers i mi gofio mae Tybalt wedi bod yn mynd ar deithiau cerdded gyda'r ymwelwyr felly mae wedi cael blas o'r awyr agored yn ifanc iawn," meddai Ms Douglas.

Ond nid oedd o'n hoff o'r ysgol yn ôl ei fam: "Doedd Tybalt byth yn mynd i'w wersi. Pob cyfle yr oedd yn cael roedd yn denig o'r ystafell ddosbarth ac yn rhedeg fyny mynydd Pen yr Helgi du neu foel Siabod ger ein cartref.

"Fe gafodd ei wahardd o'r ysgol yn 10 oed am flwyddyn gyfan gan ei fod yn cael ei ystyried yn ormod o risg. Roedd wastad yn diflannu dros wal y buarth i fyny mynyddoedd Eryri.

"Ar ôl blynyddoedd o drio ei gael i aros yn yr ysgol fe benderfynais ei addysgu o gartref ac ers hynny mae Tybalt yn cael ei addysg drwy gerdded, archwilio a drwy antur."

Image copyright Tybalt Peake

Er mai dim ond 16 ydi Tybalt mae ei fam yn parhau i ymddiried ynddo ac yn hapus ei weld o'n cael profiadau cofiadwy dramor.

"Dwi'n gwybod bod Tybalt ddigon call i beidio gwneud unrhyw beth gwirion," meddai.

"Mae wedi bod oddi cartref ers iddo fod yn 14 oed ac mae 'na ddigon o oedolion o'i gwmpas i'w warchod.

"Mae'n lwcus iawn i gael yr holl brofiadau yn ifanc iawn ac mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un fythgofiadwy iddo."

Ar ddechrau'r flwyddyn roedd Tybalt ar fwrdd cwch yr Origo.

Roedd ar y ffordd i Svalbard yn Norwy er mwyn treulio naw niwrnod yn archwilio'r ardal anghysbell yma o'r Arctig.

Ychydig fisoedd ynghynt roedd Tybalt ar fwrdd cwch arall, sef y Snowdragon II yn gwireddu breuddwyd hynod beryglus ac yn creu hanes gyda ffrindiau i'r teulu.

Bu'n hwylio drwy Dramwyfa'r Gogledd Orllewin, llwybr sy'n cysylltu Cefnforoedd Gogledd yr Iwerydd a'r Môr Tawel drwy Gefnfor yr Arctig.

"Mae hwylio'r Dramwyfa'r Gorllewin yn un o'r sialensiau mwyaf eithafol sydd yn wynebu unrhyw hwyliwr, gyda dim ond llond llaw o gychod yn llwyddo i gwblhau'r llwybr yn flynyddol," meddai Tybalt.

'Arth yn fy nilyn'

Image copyright Tybalt Peake
Image caption Fe ddaeth Tybalt wyneb yn wyneb gyda arth wen ar Ynys Philpott

Un o'r profiadau gorau iddo gael ar yr alldaith oedd ar Ynys Philpott, ble ddaeth wyneb yn wyneb ag arth wen.

"Roeddwn wedi mynd am dro ac wedi colli fy ffordd yn ôl i'r cwch. Felly dyma fi'n rhedeg fyny'r bryn i gael synnwyr o le oeddwn i. A dyna ble oedd yr arth wen yn cysgu.

"Wrth i mi gyrraedd brig y bryn fe ddeffrodd yr arth ac edrych arna'i. Roedd yn anferth, tua maint car. Fe gymerais ychydig o gamau am yn ôl cyn troi a rhedeg.

"Ar ôl canllath sylwais fod yr arth yn fy nilyn ac yn gwneud sŵn clicio gyda'i cheg sydd yn arwydd ei bod hi'n amddiffynnol.

"Fe redais lawr y bryn a saethu fy reiffl tua'r awyr ond doedd hwnnw'n cael dim effaith. Fe daniais eto heb ddim ymateb.

"Er y digwyddiad anisgwyl, mae'r arth wen yn parhau i fod fy hoff anifail."

'Prin yn gallu anadlu'

Dywedodd y gŵr ifanc bod cael bod yng nghylch yr Arctig yn brofiad bythgofiadwy: "Dim ond un ffordd oedd yn mynd i wneud i'r profiad aros yn y cof go iawn.

"Roedd rhaid i mi neidio fewn i'r dŵr rhewllyd oedd ymhell dan y rhewbwynt.

"Doeddwn prin yn gallu anadlu, ond roeddwn yn gwybod fod y bywyd roeddwn wedi ei grefu ers yn blentyn bach wedi dechrau. Roeddwn yn yr Arctig!"

Image copyright Tybalt Peake
Image caption Tybalt yn Svalbard yn Norwy, lle bu'n archwilio'r ardal am dros wythnos

Ar ôl misoedd yn hwylio roedd croesi'r llinell rhwng dau oleudy yn Rwsia ac Alaska yn dynodi diwedd y daith.

Ar ôl treulio bron i flwyddyn yn yr Arctig, mae Tybalt yn bryderus iawn am y newid yn yr hinsawdd.

Daeth y penawdau am dymheredd cynnes yn torri record yn yr Arctig yn brofiad real iddo pan gafodd ei amgylchynu gan fynyddoedd iâ yn toddi.

"Roeddwn yn gorfod defnyddio eli haul a doeddwn i ddim yn gorfod gwisgo haenau ychwanegol o ddillad.

"Ar ôl dychwelyd adref roeddwn wedi dweud yn syth wrth fy mam fy mod yn barod am antur arall."

Image caption Cyrraedd copa mynydd Matterhorn yw'r her y flwyddyn nesaf

Edrych ymlaen at 2017

Wrth dreulio amser yn archwilio Gogledd Norwy roedd Tybalt yn brysur yn cynllunio ei antur nesaf ar gyfer 2017.

Wrth sgïo yn Svalbard roedd hefyd yn trefnu dringo wyneb gogleddol y Tour Ronde yn ardal fynyddig Mont Blanc, a caiacio yn Bhutan am fis.

Ac mae'n wir edrych ymlaen ar un her benodol yn 2017 - dringo mynydd y Matterhorn yn yr Alpau.

Er bod hon yn her gorfforol mae'n her bersonol hefyd, gan fod y mynydd yn golygu dipyn i'w deulu.

Image copyright Wikipedia
Image caption Yr Arglwydd Francis Douglas oedd un o'r bobl gyntaf i gyrraedd copa mynydd y Matterhorn yn 1865

Roedd un o gyn deidiau Tybalt, y mynyddwr enwog yr Arglwydd Francis Douglas, yn rhan o'r ddringfa gyntaf i goncro'r Matterhorn ym mis Gorffennaf, 1865.

Cafodd pedwar oedd yn rhan o'r grŵp eu lladd ar eu ffordd lawr y mynydd.

Fe ddaethon nhw o hyd i gorff tri o'r dynion ond mae corff yr Arglwydd Douglas dal ar goll ac wedi ei gynnal mewn rhewlif ar y mynydd.

"Y cynllun ydi i wneud yr un daith a fy nghyn-daid. Gyda'r iâ yn toddi y gred ydi y bydd corff Francis Douglas yn dod allan o'r rhewlif yn y dyfodol," meddai Tybalt.

"Ar ôl gwneud hyn dw i'n edrych ymlaen at wireddu mwy o freuddwydion am weddill y flwyddyn a thu hwnt i eleni hefyd."