Disgwyl i North ddychwelyd nos Wener

George North
Image caption Cafodd North anaf i'w ben ddechrau'r mis

Mae disgwyl i asgellwr Cymru, George North fod yn holliach i ddychwelyd i chwarae i'w glwb Northampton Saints yn y gêm yn erbyn Sale Sharks nos Wener.

Fe gafodd North gyfergyd yn y gêm yn erbyn Caerlŷr ddechrau'r mis ac ers hynny mae wedi bod yn cael ei asesu gan arbenigwyr ar anafiadau i'r pen.

Mae disgwyl i'r arbenigwyr gyhoeddi ei adroddiad ar welliant George North ddydd Mercher.

Mae cyfarwyddwr Rygbi, Northampton, Jim Mallinder wedi ymateb drwy ddweud: "Dwi'n hyderus y bydd North yn iawn i chwarae yn y gêm yn erbyn Sale Sharks nos Wener.

"Ar ôl cyfnod o seibiant mae'n teimlo'n well ac mae'n edrych ymlaen at ddychwelyd i'r maes."