Rhys Ifans, llysgennad Shelter Cymru
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Digartrefedd plant yn 'syfrdanu' Rhys Ifans

20 Rhagfyr 2016 Diweddarwyd 12:12 GMT

Mae Rhys Ifans yn dweud ei fod wedi ei "syfrdanu" gyda nifer y plant sydd yn ddigartref yng Nghymru dros y Nadolig.

Bellach mae'r actor Hollywood yn lysgennad i elusen Shelter Cymru, sydd yn derbyn 350 o alwadau'r mis gan deuluoedd digartref.

Yn ôl yr elusen mae 1,100 o blant yn ddigartref yng Nghymru'r Nadolig yma.

Dywedodd Rhys Ifans bod y ffigwr yn ei wneud yn "flin ac yn ei gywilyddio", a'i fod yn broblem fydd yn parhau ymhell y tu hwnt i'r Nadolig.