Gosod stamp newydd

  • 23 Mawrth 2017
Miriam Elin Jones
Image caption Miriam Elin Jones

Mae o eisoes yn gwneud ei farc arlein, ond ar 23 Mawrth bydd yna noson arbennig yn Aberystwyth i groesawu rhifyn print cyntaf cylchgrawn llenyddol newydd Y Stamp.

Bu Miriam Elin Jones, un o'r sylfaenwyr, yn sôn wrth Cymru Fyw am ei rhwystredigaeth gyda'r sin farddonol yng Nghymru, rhegi, a'r chwant am fwy o wallt glas yn y Pafiliwn...


Dechrau Rhagfyr y llynedd, ges i 'strop' digon cyhoeddus ar fy mlog personol.

Wedi cyfnod o ddanto a thwtsh o sour grapes am nad o'n i erioed wedi ennill gwobr Eisteddfodol, nes i rannu fy marn ynglŷn â pham o'n i'n teimlo nad oedd 'na ddigon o amrywiaeth ar y sin farddonol Gymraeg.

Rhai o'r pethau nes i sylwi oedd bod beirniaid yn canu clodydd themâu penodol - rhai cenedlaetholgar, yn trafod crefydd a rhyfeloedd yn amlach na pheidio - ac hefyd yn pigo ar ramadeg a'r defnydd o'r Saesneg.

Fel llenor sydd â'i gwaith wedi ei ddisgrifio'n 'gyfoes', 'gwreiddiol' a 'dewr' yn y gorffennol, roedd safon fy ngramadeg a fy nefnydd o ambell air Saesneg yn dod i'r amlwg gan eraill. Ac och a gwae, roeddwn yn rhegi hefyd!

Roedd y rheiny - yn fy myd dwyieithog a llawn rhegfeydd (sori Mam!) - yn bethau doeddwn i ddim yn fodlon cyfaddawdu.

Felly fe ddes i i'r canlyniad - ym myd y beirniaid sy'n dal i ddilyn templed oes a fu - bod dim lle i amrywiaeth a ffordd amgen o fynegi eich hun yn yr Eisteddfod.

Image caption Mae Miriam (uchod) wedi sefydlu Y Stamp gyda Elan Grug Muse, Iestyn Tyne a Llŷr Titus

Wastod ar y tu fas

Yr hyn wnaeth fy synnu i am y blog gwreiddiol oedd gymaint o gefnogaeth wnes i dderbyn.

Roedd clywed am eraill oedd yn teimlo bod y profiad Eisteddfodol yn hollol ddieithr iddyn nhw yn gysur mawr.

Pan o'n i'n fy arddegau - er fy mod yn dod o deulu uniaith Gymraeg - ro'n i a fy ffrindiau yn siarad Saesneg gyda'n gilydd. Pam hynny? Roedden ni'n ddarllenwyr brwd, ond yn llyncu llyfrau Saesneg.

Nes i sylweddoli, wrth orfod astudio swmp o waith gan feirdd gwrywaidd, gogleddol, nad oedd yna'r un bardd yr oeddwn i'n gallu uniaethu ag e.

Yr hyn oedd ei angen arna'i oedd rhywun â'i wallt neu'i gwallt wedi'i liwio'n las i sefyll yn seremoni'r cadeirio, neu rywun a oedd o leiaf yn gwybod pwy oedd Green Day i gyhoeddi cyfrol o gerddi.

Rhyddiaith Mihangel Morgan a Llwyd Owen oedd y pethau a gafodd gryn ddylanwad ar fy ysgrifennu - llenorion nad oedd ofn bod yn wahanol - ond nes i ddim teimlo bod yna lais barddonol yn gwneud yr un peth.

Yn ddiweddarach, nes i astudio'r Gymraeg yn y Brifysgol a gweld fy ngorwelion yn ehangu; darganfod 'Awelon' gan Aled Jones Williams, a siomi na aeth neb arall i ganu'n debyg iddo.

Mae mwy o le i amrywiaeth ac mae'n rhaid cydnabod mai nid rhwng cloriau'r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau na chwaith ar lwyfan y Babell Lên yn ystod yr Ymryson y mae canfod y lleisiau newydd hynny.

Image caption Sawl un o enillwyr y Goron sydd wedi clywed am Green Day tybed?

Cymryd rhan sy'n bwysig...

Yr hyn sy'n ein dal ni'n ôl yw'r elfen gystadleuol hynny sydd wedi dod i deyrnasu dros ein sîn farddonol. Rwy' ddim am eiliad eisiau cael gwared o'r traddodiad, dim ond pwysleisio nad y traddodiad hwnnw yw'r unig ddarlun y cawn o feirdd a llenorion Cymraeg.

Rwy'n credu fod beirniadu gramadeg unigolyn (a hynny heb gynnig rheol pendant i'r unigolyn hwnnw gael dysgu rhywbeth) a'i (d)defnydd o'r Saesneg yn atal nifer rhag cystadlu.

Wrth fynnu glöywder ieithyddol, ai pobl â graddau yn y Gymraeg yn unig sy'n deilwng o'r prif wobrau felly?

Dydw i ddim yn dadlau o gwbl y dylid anwybyddu safonau ieithyddol yn llwyr, ond tynnu'r pwysau oddi ar ysgwyddau'r llenor.

Rhaid cofio bod 'na Gymry sydd erioed wedi tywyllu'r Steddfod. Sut mae modd eu cynrychioli nhw? Eu croesawu nhw i farddoni hefyd?

Mae'r pedwar ohonom ni - fi, Elan Grug Muse, Iestyn Tyne a Llŷr Titus - wedi dod ynghyd gyda'r bwriad o greu platfform newydd.

Ein gobaith yw annog amrywiaeth, mentro ychydig, a gweld Cymru a'r Cymry o ogwydd newydd, wahanol.