Nid pawb sy'n dathlu'r Dolig

geni'r iesu

Mae pobl ledled Cymru yn paratoi i ddathlu'r Nadolig gan fwynhau cwmni teulu a ffrindiau, bwyta a chwerthin.

Ond dydi pawb yng Nghymru ddim yn dathlu'r Nadolig.

Dyma ddetholiad o rhai o'r gwyliau sanctaidd a phwysicaf i rai o'r bobl sydd ddim yn dathlu'r Nadolig:


Tystion Jehofa

Yn ôl Tystion Jehofa gorchymyn Iesu oedd inni goffáu ei farwolaeth, nid ei enedigaeth. Hefyd maen nhw'n dweud nad oedd apostolion a disgyblion cynnar Iesu yn dathlu'r Nadolig, ac nad oes tystiolaeth o enedigaeth Iesu ar 25 Rhagfyr.

Mae Tystion Jehofa yn credu nad yw Duw yn cymeradwyo'r Nadolig oherwydd ei wreiddiau a'i arferion Paganaidd, ac 'nad oes sail Ysgrythurol iddo'.

Mae gwefan y Tystion Jehofa yn dweud 'Er nad ydyn ni'n dewis dathlu'r Nadolig, rydyn ni'n parchu hawl pob unigolyn i ddewis dros ei hun os yw'n ei ddathlu ai peidio. Nid ydyn ni'n ymyrryd yn nathliadau pobl eraill.'

Digwyddiad pwysica'r flwyddyn i'r Tystion Jehofa yw'r diwrnod sy'n nodi marwolaeth Crist, sy'n digwydd ar y diwrnod sy'n coffáu'r Swper Olaf ac yn cael ei gyfrifo yn dilyn y calendr lleuad a ddefnyddiwyd yn oes Crist. Maen nhw'n credu mai hwn yw'r unig ddefod sydd wedi ei orchymyn gan Iesu Grist.

Iddewon

Dydi'r Nadolig ddim yn ŵyl Iddewig, ond mae gan yr Iddewon ŵyl sy'n cael ei chynnal tua'r un cyfnod, sef Hanukkah. Mae'n ddathliad o fod yn rhydd i addoli, a hefyd yn ddathliad o annibyniaeth genedlaethol yr Iddewon a frwydrodd yn erbyn y Groegwyr yn yr ail ganrif cyn Crist.

Mae Hanukkah yn cael ei ddathlu am wyth noson a diwrnod ym mis Kislev yn y calendr Iddewig.

Gan fod y calendr Iddewig yn dilyn cylch y lleuad ar gyfer dyddiadau mae Kislev yn gallu dechrau o ddiwedd Tachwedd tan ddiwedd Rhagfyr. Eleni bydd Hanukkah yn cael ei chynnal rhwng dydd Sadwrn, 24 Rhagfyr a dydd Sul, 1 Ionawr.

Image caption Y Menorah gyda naw golau sydd yn cael ei defnyddio yn ystod Hanukkah

Mwslimiaid

Mae gan y Mwslimiaid ddwy brif ŵyl. Y cyntaf, Eid al-Fitr, yw'r ŵyl sy'n dod â Ramadan i ben (wedi mis o ymprydio), ac sy'n golygu "gŵyl torri yr ymprydio".

Yr ail yw Eid al-Adha sy'n nodi pa mor ufudd oedd Ibrahim (Abraham) i wasanaethu Duw. Gorchmynnodd Duw i Abraham ladd ei fab, ond fel yr oedd Abraham yn paratoi i wneud hynny fe yrrodd Duw yr angel Jibra'il (Gabriel) i'w stopio rhag gwneud, ac fe gafodd dafad ei aberthu yn ei le.

Mae Eidal-Adha hefyd yn nodi diwedd yr Hajj, y bererindod flynyddol i Mecca.

Image caption Miloedd o bobl yn cerdded rownd y Kabbah yn Mecca yn ystod y bererindod Hajj

Bwdistiaid

Vesak (Diwrnod y Bwda) yw'r ŵyl bwysicaf yng nghalendr y Bwdistiaid ac mae'n cael ei dathlu yn ystod lleuad llawn ym mis Mai neu ar ddechrau Mehefin.

Mae'r ŵyl yn dathlu geni y Bwda Siddhartha Gautama, ac i rai Bwdistiaid mae hefyd yn nodi ei oleuedigaeth (enlightenment) pan oedd yn 35 oed, a phan wnaeth 'basio' drosodd i Nirvana yn 80 oed. Mewn Bwdïaeth, dim ond drwy gyrraedd Nirvana mae rhoi'r diwedd i'r cylch marw ac ail-eni.

Bydd Bwdistiaid yn dathlu'r ŵyl drwy fynd i'r deml, cynnal myfyrdod, rhannu ag eraill a gwneud cymwynasau.

Hindwiaid

Mae 'Divali' neu 'Diwali' yn un o'r gwyliau pwysicaf yn nhraddodiad yr Hindŵ, y Jain a'r Sîc sy'n para am bum niwrnod ym mis Hydref neu Dachwedd. Mae'r ŵyl yn nodi 'buddugoliaeth daioni dros ddrygioni a goleuni dros dywyllwch'.

Un o'r pethau amlycaf am y dathlu yw'r lampau a goleuadau o bob math sy'n llosgi yn ystod yr ŵyl. Erbyn heddiw mae tân gwyllt yn rhan o'r dathlu hefyd mewn rhai ardaloedd yn India.

Image caption Mae dathlu'r Diwali yn India wedi dod yn ddigwyddiad enfawr yn y wlad

Siciaid

Vaisakhi (sydd hefyd yn cael ei sillafu Baisakhi) yw un o wyliau pwysicaf y flwyddyn i'r Siciaid. Hon yw gŵyl flwyddyn newydd y Siciaid, sy'n cael ei dathlu 13-14 Ebrill.

Roedd Vaisakhi yn hen ŵyl yn ardal Punjab, ond ers 1699 mae hefyd yn nodi'r adeg pan wnaeth Guru Gobind Singh uno a thrawsnewid y grefydd. Mae'n cael ei dathlu heddiw gyda gorymdeithiau, dawnsio a chanu.