Apêl wedi gwrthdrawiad difrifol yn Abertawe

rtc abertawe Image copyright Google maps

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad yn Abertawe brynhawn dydd Mawrth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 17:42 i'r gwrthdrawiad rhwng Ford Focus gwyn a beic modur ar Ffordd New Cut ger fflatiau Dyfaty yng nghanol y ddinas.

Cafodd gyrrwr beic modur anafiadau sylweddol, ac fe gafodd y ffordd ei chau er mwyn i ymchwiliad gael ei gynnal.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd a gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu drwy ffonio 101 a dyfynu'r cyfeirnod 1600490449.