Mastiau ffon
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Mastiau ffôn: 'Angen gwneud mwy'

21 Rhagfyr 2016 Diweddarwyd 06:56 GMT

Mae'n bosib y bydd rheolau cynllunio ar gyfer mastiau ffonau symudol yn cael eu llacio er mwyn gwella'r signal.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod eisiau asesu'r dystiolaeth yn gyntaf cyn gwneud penderfyniad.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns ei fod wedi siomi bod Cymru yn "dilyn, ac nid yn arwain", gan drafod rhai o'r posibiliadau ar gyfer y dyfodol.