Cwch yr Arctig
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Taith bachgen 16 oed, Tybalt Peake drwy'r Arctig

31 Rhagfyr 2016 Diweddarwyd 09:45 GMT

Dyma flas o daith Tybalt Peake, 16 mlwydd oed o Gapel Curig drwy Dramwyfa'r Gogledd Orllewin (North West Passage).

Tybalt oedd y person ieuengaf mewn hanes i lwyddo i groesi'r llwybr peryglus drwy'r Arctig.

Yn 2017 bydd yn dringo mynydd y Matterhorn yn yr Alpau ac yn dilyn ôl droed ei gyn-daid a'r mynyddwr enwog, yr Arglwydd Francis Douglas.

Yr Arglwydd Douglas oedd un o'r bobl gyntaf i lwyddo i ddringo i gopa'r Matterhorn yn 1865 ond bu farw ar ei ffordd lawr gyda thri aelod arall o'r grŵp.

Mae corff yr Arglwydd Douglas wedi ei gadw mewn rhewlif ar y mynydd a'r gred yw bydd y corff yn cael ei ddarganfod yn y dyfodol yn dilyn toddi'r iâ ar y mynydd.