Prif weithredwr y Scarlets yn rhoi'r gorau iddi

Darran Phillips
Image caption Mae Darran Phillips wedi bod yn Brif Weithredwr y Scarlets ers 2014

Mae clwb Rygbi'r Scarlets wedi cyhoeddi heddiw bydd Prif Weithredwr y rhanbarth, Darran Phillips yn camu lawr o'i rôl ddiwedd y mis.

Fe ddywedodd Cadeirydd y Scarlets, Nigel Short: "Hoffwn ddiolch i Darran am ei waith diflino dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn enwedig ei waith i ddenu mwy o noddwyr i'r clwb."

Daeth Mr Phillips yn brif weithredwr yn 2014 yn dilyn cyfnod o weithio fel Cyfarwyddwr cwmni buddsoddi Threadneedle yn Llundain.

Fe ddywedodd Mr Phillips: "Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod yn gweithio gyda'r Sgarlets ac mi oedd hi'n bleser cael dod 'nôl i Gymru i weithio."

Ni fydd y Scarlets yn edrych i lenwi'r bwlch pan y bydd Mr Phillips yn gadael.