'Ddylai North ddim fod wedi chwarae ymlaen ar ôl cyfergyd'

George North
Image caption George North ar y llawr yn dilyn cyfergyd yn y gêm rhwng Northampton Saints a Chaerlŷr

Mae adroddiad gan y Grŵp Adolygu Rheoli Cyfergyd (CMRG) wedi dod i'r casgliad na ddylai George North fod wedi dychwelyd i'r maes yn y gêm rhwng Northampton Saints a Chaelŷr ddechrau'r mis.

Fe gafodd North gyfergyd i'w ben ar ôl 11 munud yn y gêm ac fe ddyfarnodd tîm meddygol Northampton ei bod hi'n iawn i North ddychwelyd i'r cae.

Mewn datganiad fe ddywedodd CMRG fod 'na "ddigon o dystiolaeth i ddangos na ddylai North fod wedi parhau i gymryd rhan yn y gêm".

Ond fe wnaeth y grŵp dderbyn fod Northampton "wedi dilyn y canllawiau llym ar gyfergyd ac nad oes 'na fai ar y tîm meddygol".

Oherwydd hynny, ni fydd unrhyw gamau disgyblu yn cael eu cymryd erbyn y clwb nag unigolion o ganlyniad i'r digwyddiad, ac mae disgwyl i North fod ar gael i chwarae'r penwythnos hwn.