Tri hyfforddwr rhanbarthol i ymuno gyda Chymru yn 2017

Danny Wilson, Stephen Jones a Matt Sherratt Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Danny Wilson, Stephen Jones a Matt Sherratt

Fe fydd tri o'r hyfforddwyr rygbi rhanbarthol yn ymuno gyda thîm hyfforddi Cymru ar gyfer y daith i Ynysoedd y Môr Tawel yn haf 2017.

Mi fydd prif hyfforddwr Gleision Caerdydd, Danny Wilson, yr hyfforddwr ymysod Matt Sherratt, ac hyfforddwr olwyr y Scarlets, Stephen Jones yn ymuno â phrif hyfforddwr Cymru ar gyfer y daith, Robin McBryde.

Bwriad y penderfyniad yw i ddatblygu hyfforddwyr yng Nghymru yn absenoldeb Warren Gatland a Rob Howley, tra bydd y ddau ar ddyletswydd gyda thîm y Llewod yn Seland Newydd.

Mi fydd Alex Lawson hefyd yn ymuno fel is-hyfforddwr ffitrwydd.

Fe ddywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips: "Mae hyn yn gyfle i weithio'n agosach gyda hyfforddwyr y rhanbarthau."