Diddymu cynllun i bobl anabl yn 'frad' medd ymgyrchydd

cadair olwyn Image copyright Science Photo Library

Mae ymgyrchydd anabledd wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o "fradychu" pobl anabl yn sgil penderfyniad i ddiddymu cynllun cymorth arbenigol sy'n darparu arian ychwanegol ar gyfer eu gofal.

Fis diwethaf, penderfynodd y llywodraeth i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannol dros y rheiny oedd yn derbyn y Gronfa Byw'n Annibynnol (CBA) i gynghorau lleol.

Mae'r elusen Anabledd Cymru yn "siomedig" nad oedd gweinidogion wedi penderfynu ehangu'r Grant Byw'n Annibynnol Cymreig (GBAC) a sefydlwyd y llynedd yn dilyn penderfyniad llywodraeth y DU i gau'r CBA.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y penderfyniad "yn seiliedig ar gyngor gan grŵp o randdeiliaid".

Mae mwy na 1,500 o bobl ar hyn o bryd yn derbyn taliadau GBAC am gymorth yn y cartref gyda choginio, glanhau, gwisgo a golchi dillad.

Ar gyfartaledd, mae'r taliad werth £335 yr wythnos.

Yn wreiddiol, roedd y taliad newydd fod i redeg tan ddiwedd mis Mawrth 2017. Ond cyhoeddodd y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol Rebecca Evans AC ym mis Tachwedd y byddai'r grant yn parhau am flwyddyn arall.

Image caption Mae Rebecca Evans wedi dweud y bydd y taliad yn parhau am flwyddyn arall

Bydd y gronfa flynyddol gwerth £27m wedyn yn trosglwyddo yn uniongyrchol i awdurdodau lleol yn ystod 2018-19 fel eu bod yn gallu cwrdd ag anghenion gofal y rheiny oedd yn derbyn CBA erbyn 31 Mawrth 2019.

Roedd Nathan Davies, o Wrecsam, yn derbyn taliadau CBA am bum mlynedd ac mae bellach yn derbyn cefnogaeth gan GBAC.

Mae'n dioddef o Friederich's Ataxia, clefyd genetig sy'n achosi niwed cynyddol i'r system nerfol.

"Yn amlwg rwy'n mynd i waethygu a dwi angen mwy o gymorth i fyw'n annibynnol," meddai.

'Bradychu pobl anabl'

"Rwy'n cymryd rhan yn y gymuned leol cryn dipyn ar y funud ac am barhau i wneud hynny cymaint ag y gallaf, ond heb gefnogaeth ddigonol fyddai ddim yn gallu.

"Rwy'n teimlo fel bod nhw [Llywodraeth Cymru] wedi bradychu pobl anabl am ei bod wedi trosglwyddo cyfrifoldebau dros bobl anabl yng Nghymru i awdurdodau lleol annibynadwy.

"Dydyn ni ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd ar hyn o bryd ond os edrychwn ni ar yr hyn a ddigwyddodd yn Lloegr, yna nid yw'n galonogol am fod llawer o bobl anabl yn Lloegr yn derbyn llai o ofal.

"Y cyfan y gallai ei weld ar gyfer y dyfodol yw hyd yn oed mwy o frwydro a dwi wedi siomi gyda Llafur Cymru. Dwi jest yn poeni, dwi'n ofnus o'r dyfodol."

Fe alwodd Anabledd Cymru, elusen sy'n cynrychioli grwpiau anabledd yng Nghymru, ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r GBAC bresennol fel ei fod e'n debyg i'r system sydd wedi ei sefydlu gan Lywodraeth yr Alban.

Image copyright PA
Image caption Roedd yna brotestio am y penderfyniad i gael gwared a'r Gronfa Byw'n Annibynol yn Lloegr

Dywedodd Rhian Davies, prif weithredwraig yr elusen: "Rydym yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â mynd lawr y llwybr hwnnw... ond mae'r cyfnod o ddwy flynedd ar gyfer y trawsnewid yn amser byr yng nghyd-destun gofal cymdeithasol.

"Felly ein pryder ni yw a fydd yr un lefel o gymorth ar gael i bobl yn ystod y cyfnod hynny o ddwy flynedd?"

Dyw Llywodraeth Cymru heb benderfynu eto a fydd yn ofynnol ar gynghorau lleol i wario'r arian a drosglwyddwyd ar y rheiny oedd yn derbyn y CBA yn unig.

Dywedodd Ms Davies bod "rhaid i'r cyllid gael ei neilltuo" ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.

"Rwy'n credu petasai Llywodraeth Cymru yn rhoi'r sicrwydd hynny i unigolion a'u teuluoedd y byddai'n helpu i gael gwared ar ychydig o'r ofn sydd gan bobl y gallent golli eu gallu i fyw'n annibynnol yn y gymuned," meddai.

Dim penderfyniad eto

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cafodd y penderfyniad i drosglwyddo'r arian i awdurdodau lleol ar gyfer y rhai oedd yn arfer derbyn cymorth gan y CBA yng Nghymru ei seilio ar gyngor gan grŵp ymgynghorol o randdeiliaid.

"Roedd y grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o blith y rhai oedd yn derbyn cymorth, llywodraeth leol ac Anabledd Cymru.

"Roedd y penderfyniad i gyflwyno cyfnod pontio o ddwy flynedd i gytuno ar becynnau cymorth at y dyfodol ac i baratoi'r pecynnau hynny yn deillio'n uniongyrchol o gyngor y grŵp hwnnw.

"Ar gyfer 2017-18 bydd arian yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol drwy grant penodol, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.

"Nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn â sut bydd yr arian yn cael ei ddarparu iddynt yn 2018-19."

Mae'r llefarydd hefyd yn dweud ei bod yn bwriadu trafod y flwyddyn nesaf gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol er mwyn gweld "beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol, y tu hwnt i 2018-19, i roi cymorth ariannol i awdurdodau lleol".