Yr actor Ioan Gruffudd 'yn ddisgynnydd i Edward I'

Ioan Gruffudd
Image caption Ioan Gruffudd - perthyn i deulu brenhinol Lloegr neu Hollywood?

Mae'r actor Ioan Gruffudd wedi darganfod ei fod yn un o ddisgynyddion Edward I, y brenin a goncrodd Cymru yn yr 13eg ganrif.

Fe wnaeth y gŵr o Gaerdydd ddod ar draws y ffaith annisgwyl wrth ffilmio ar gyfer rhaglen deledu BBC Cymru yn edrych ar ei hanes teuluol.

Clywodd y seren Hollywood ei fod yn perthyn i deulu brenhinol y Plantagenetiaid, gan gynnwys Harri III, tad Edward.

Fe wnaeth Harri roi teitl tywysog Cymru i Llywelyn ein Llyw Olaf, gafodd ei ladd yn 1282 wrth frwydro yn erbyn Edward.

Dywedodd Ioan Gruffudd ei fod yn ddatguddiad "syfrdanol".

"Pan mae rhywun yn cael eu magu yng Nghymru, yn enwedig drwy'r iaith Gymraeg, rydyn ni'n dysgu mai Llywelyn oedd tywysog go iawn olaf Cymru, felly mae hynny'n arwyddocaol iawn i mi'n bersonol o beth ddysgais i yn blentyn," meddai'r actor yn y rhaglen Coming Home.

"Mae cyferbyniad amlwg rhwng y ffaith ei fod e [Edward] yn perthyn i'r brenin Lloegr wnaeth ddod i gytundeb â Llywelyn, oedd hefyd yn dad i'r dyn goncrodd Cymru.

"Mae'n ddatguddiad syfrdanol mod i'n ddisgynnydd i ddyn oedd â chymaint o gasineb tuag at Gymru a hanes y Cymry, ac oedd eisiau'r holl bŵer a'r rheolaeth i'w hun."