Casnewydd 0-1 Plymouth Argyle

Rhys Healey a Sonny Bradley Image copyright Getty Images
Image caption Rhys Healey a Sonny Bradley yn cystadlu am y bêl

Plymouth, ac nid Casnewydd, fydd yn wynebu Lerpwl oddi cartref yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr wedi i'r ymwelwyr gipio buddugoliaeth yn ail rownd y cwpan nos Fercher.

Daeth torf o 5,121, yr ail uchaf erioed i wylio Casnewydd yn Rodney Parade, allan i wylio gan obeithio gweld y tîm cartref yn sicrhau canlyniad hanesyddol.

Ond wedi i gêm ddi-sgôr fynd i amser ychwanegol, fe sicrhaodd cic o'r smotyn Graham Carey mai'r tîm o Ddyfnaint fyddai'n ennill yr ornest.

Fe wnaeth Graham Westley enwi tîm gymharol ifanc ar gyfer yr ornest, gyda'r Cymro 17 oed Finlay Wood yn dechrau ei gêm gyntaf dros Gasnewydd.

Yr ymwelwyr gafodd y cyfle cyntaf, gyda pheniad Craig Tanner o chwe llathen yn mynd yn syth i ddwylo Joe Day.

Ond yna fe ddechreuodd Casnewydd fygwth, gyda Josh Sheehan a Rhys Healey yn cael cyfleoedd da o bellter.

Fe aeth Carey ac Oscar Threlkeld yn agos i Plymouth, cyn i Marlon Jackson fethu cyfle gorau Casnewydd yn yr hanner cyntaf o groesiad Jazzi Barnum-Bobb.

Ar ôl yr egwyl bu bron i Plymouth fynd ar y blaen o gamgymeriad, gyda Day yn gorfod arbed yn dda oddi wrth Jordan Slew yn dilyn peniad gwan yn ôl i'r golwr gan Scot Bennett.

Casnewydd oedd yn cael y cyfleoedd gorau fodd bynnag, gyda'r eilyddion Jordan Green a Josh O'Hanlon yn ogystal â Healey yn bygwth gôl Luke McCormick ag ergydiadau.

Methodd Paul Garita gyfle euraidd i benio'r ymwelwyr ar y blaen o groesiad David Goodwillie, cyn i Day arbed yn wych o ymdrech Graham Carey.

Ciciau o'r smotyn

Ar ddechrau'r hanner awr o amser ychwanegol fe redodd Green yn wych i mewn i'r cwrt cosbi cyn taro ergyd flêr heibio i'r postyn.

Ac fe gafodd Casnewydd ddihangfa wedi i Jennison Myrie-Williams lawio'r bêl ac ildio cic gosb, gyda Garita yn taro ei ergyd yn erbyn y postyn.

Methodd Healey a Sheehan gyfleoedd pellach i'r tîm cartref, cyn i Darren Jones ildio ail gic o'r smotyn y noson gyda thacl fler, a Carey y tro hwn yn rhwydo o 12 llathen.

Daeth Abdoulaye Meite ymlaen fel eilydd yn lle Joss Labadie wrth i Gasnewydd geisio unioni'r sgôr, ond fe ddaliodd Plymouth ymlaen i sicrhau mai nhw fydd yn teithio i Anfield ar 8 Ionawr.