Actores Stella, Deddie Davies wedi marw yn 78 oed

Deddie Davies
Image caption Deddie Davies yn chwarae rhan Jean Vincent yn Doctors

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r actores o Ben-y-bont, Deddie Davies, sydd wedi marw yn 78 oed.

Roedd hi'n adnabyddus am actio Mrs Perks yn y Railway Children ac am chwarae rhan Marj yn y gomedi Stella.

Dywedodd Ruth Jones, awdures a seren cyfres Stella, bod Ms Davies yn "berson hoffus iawn".

Roedd Ms Davies wedi chwarae sawl rhan ar y teledu ers yr 1970au gan gynnwys mewn rhaglenni fel The Forsyte Saga, The Bill, Upstairs, Downstairs, Grange Hill a Whitechapel.

Straeon perthnasol