Actor newydd Darth Vader yn ymweld â gogledd Cymru

Spencer Wilding Image copyright Getty Images
Image caption Mae Spencer Wilding eisoes wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau Hollywod

Bydd Darth Vader a Stormtroopers o ffilm Star Wars yn heidio i'r Rhyl ddydd Iau i groesawu'r actor o Gymru sy'n chwarae'r ffigwr yn ffilm ddiweddaraf y gyfres.

Bydd Spencer Wilding, sy'n dod o'r dref, yn mynychu dangosiad arbennig o'r ffilm, Rogue One.

Ond pa mor hawdd oedd cadw'r gyfrinach mai ef fyddai'r dyn y tu ôl i'r mwgwd yn ffilm ddiweddaraf cyfres mor eiconig?

"Mae hi'n dipyn o gyfrinach i'w chadw!" meddai Wilding wrth raglen Good Morning Wales.

"Ond pam dy'ch chi'n actor proffesiynol - pan dy'ch chi'n arwyddo'r darn o bapur sy'n datgan nad ydych chi'n cael dweud gair - dy'ch chi'n cadw i'ch gair ac yn dweud dim."

Image copyright Getty Images

Dywedodd yr actor 44 oed ei bod wedi bod yn dipyn o her cadw'r gyfrinach, yn dilyn sibrydion mai ef fyddai'n chwarae'r rôl.

"Rydw i wedi cael cannoedd o bobl pob dydd am flwyddyn yn gofyn i mi os mai fi ydy Vader," meddai.

'Edrych 'mlaen'

Mae Wilding eisoes wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau Hollywod, fel Guardians of the Galaxy, Green Lantern, tair ffilm Harry Potter a'r gyfres deledu boblogaidd, Game of Thrones.

Ond nid ef fydd llais y dihiryn yn Rogue One, gyda James Earl Jones yn parhau i'w leisio, tra mai Wilding fydd y tu ôl i'r mwgwd.

Dywedodd ei fod yn gobeithio gweld y lle'n llawn ar gyfer y dangosiad arbennig nos Iau.

"Rwy'n edrych 'mlaen," meddai. "Mae hi am fod yn wych."