Negeseuon y Nadolig gan ffigyrau amlwg o Gymru a thu hwnt

Christmas tree Image copyright Getty Images

Mae hi wedi cyrraedd y cyfnod o'r flwyddyn lle mae ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus yn cyhoeddi negeseuon yr Ŵyl sy'n edrych 'nôl dros y flwyddyn ac ymlaen i 2017.

Yng Nghymru a thu hwnt, roedd 2016 yn flwyddyn o newid gwleidyddol enfawr, gyda'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud ei bod yn bwysig i bobl uno y flwyddyn nesaf.

'Helpu'n gilydd'

"Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn gofiadwy a dweud y lleiaf," meddai.

"Mae digwyddiadau'r 12 mis diwethaf wedi amlygu'r gwahaniaeth barn ymysg teuluoedd, ffrindiau ac eraill ynghylch y dyfodol yr hoffem ni ei weld i'n gwlad.

"Felly, os oedd 2016 yn canolbwyntio ar raniadau, gadewch i ni gamu ymlaen a llunio 2017 fel blwyddyn sy'n ein huno gyda'r bwriad cyffredin o helpu'n gilydd i fyw y bywydau ry'n ni eisiau eu byw, a pharhau i greu Cymru well i bawb.

"Mae neges heddwch ac ewyllys da yn arbennig o arwyddocaol eleni, o ystyried y gyflafan yn Syria a'r miliynau o bobl sy'n wynebu dyfodol ansicr. Rwy'n annog pawb i gofio'r rhai llai ffodus y Nadolig hwn, y rhai na fydd yn dathlu'r ŵyl yng nghwmni eu hanwyliaid.

"Hoffwn hefyd ddiolch o waelod calon i'n staff gofal iechyd, gofal cymdeithasol a'r gwasanaethau brys, y gofalwyr a'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio mor galed ac yn aberthu eu Nadolig eu hunain i helpu eraill.

"Ry'n ni wir yn gwerthfawrogi'ch ymroddiad a'ch ymrwymiad."

Image copyright Yr Eglwys yng Nghymru
Image caption Bydd Dr Barry Morgan yn ymddeol ar ei ben-blwydd yn 70 oed ym mis Ionawr

'Pontydd, nid muriau'

Dylai Cristnogion "adeiladu pontydd, nid muriau". Dyna gri Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan yn ei neges Nadolig.

Dyma neges Nadolig olaf y Gwir Barchedig fydd yn ymddeol yn y flwyddyn newydd.

O ystyried y brwydro yn Syria, sefyllfa ffoaduriaid, a therfysgaeth ar draws y byd, "mae angen pobl, sydd yn ymestyn allan at bobl eraill" yn ôl Dr Morgan.

"Rwy'n gofyn i Gristnogion yn arbennig wneud hynny, oherwydd dyna yw natur Duw ein Iesu Grist.

Ychwanegodd hefyd bod lle i bobl Cymru helpu eraill sy'n llai ffodus na ni ein hunain, gan fod gennym draddodiad o groesawu pobl o dras wahanol a phobl o wledydd eraill.

Bydd yr Archesgob yn camu o'r neilltu yn y flwyddyn newydd wedi 14 o flynyddoedd yn arwain yr Eglwys yng Nghymru.

Mae'n sôn hefyd yn ei neges Nadolig olaf am ei falchder ei bod yn bosib bellach i ferched gael eu hordeinio yn Esgobion.

"Mae hi wedi bod yn frwydr galed i ferched rwy'n meddwl, a fi'n credu ei fod yn wych bod yr Eglwys yng Nghrymu wedi ymgymryd â hynny, ac wedi penderfynu bod Joanna Penberthy yn Esgob teilwng."

'Lloches i'r di-gysgod'

Mae pobl sy'n ffoi o Syria "angen ein help ni yn fwy nac erioed" meddai Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg Dr Geraint Tudur, a dyna sy'n cael ei sylw yn ei neges Nadolig ef.

"Ers i Lywodraeth Prydain gytuno i dderbyn 20,000 o ffoaduriaid dros bum mlynedd, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu'n arw.

"Dylent ail-ystyried y cyfanswm pitw yma o lai nac 80 yr wythnos," meddai.

"Mae cyfrifoldeb arbennig arnom ni gan i Brydain a Ffrainc hau had yr argyfwng presennol yn y Dwyrain Canol ganrif yn ôl, trwy lunio ffiniau artiffisial gwledydd fel Syria ac Irac, gan anwybyddu carfannau crefyddol ac ethnig.

"Rhaid i ni beidio â throi ein hwynebau i ffwrdd o ddioddefaint ac angen plant a phobl mewn gwledydd fel Syria ac Yemen, peidio â rhoi'r cyfan naill ochr tan fis Ionawr tra byddom ni'n mwynhau ein Nadolig cysurus.

"Fel Cristnogion, mae disgwyl i ni roi lloches i'r di-gysgod, rhoi bwyd i'r newynog a dilladu'r noeth. Peidiwn â bod yn galon-galed. Agorwn ein calonnau i'r trueiniaid hyn trwy ein cyfraniadau, ein gweddïau a thrwy ddatgan ar goedd nad yw llety ein gwlad yn llawn."

Image copyright Getty Images

Yn ei neges Nadolig ef, fe wnaeth y Pab Francis annog Cristion i ddathlu genedigaeth Iesu Grist wrth feddwl am blant heddiw sy'n ei chael yn anodd, gyda rhai yn gorfod dianc rhag bomiau neu ffoi ar gychod.

Dywedodd bod angen i Ewrop yn enwedig wneud mwy i groesawu ffoaduriaid, gan ddweud bod Iesu ei hun yn ffoadur, oedd yn haeddu gwell na chael ei eni mewn stabl.

Galwodd hefyd ar bobl gyfoethog i beidio gwastraffu, pan fo blant a phobl lai ffodus yn marw o newyn pob dydd.

Mewn apêl arall, dywedodd na ddylai pobl anghofio gwir neges y Nadolig, ac nad masnach ac anrhegion sy'n bwysig dros yr Ŵyl.

'Gwneud yr annisgwyl'

Yn ei neges ef, mae Esgob Bangor, Andrew John yn disgrifio 2016 fel blwyddyn na allai neb fyth fod wedi ei rhagweld.

"Prin y byddai neb ohonon ni wedi rhagweld mai eleni fyddai'r flwyddyn pan benderfynon ni torri cwlwm ein perthynas ag Ewrop neu mai rhyw 'seleb' o'r byd teledu - sy'n digwydd bod yn ddyn busnes a biliwnydd - fyddai'n dod i'r brig yn y ras i'r Tŷ Gwyn i fod yn Arlywydd Unol Daleithiau'r America," meddai.

"Wrth gwrs, mae'r digwyddiadau hanesyddol hyn wedi eu chwarae allan yng ngoleuni llifoleuadau byd sydd ag obsesiwn â chyfryngau 24 awr, y carioci-llond-car diweddaraf a'r gwirioni gyda giamocs Ed Balls.

"Yn rhyfedd ddigon, nid dan y fath graffu byd-eang oedd hi pan ymddangosodd Duw ar ein daear ar y Nadolig cyntaf hwnnw. Adroddir mai llond llaw o fugeiliaid oedd y gwylwyr.

"Fyddai unrhyw un arall heblaw am y bugeiliaid wedi meddwl mai rhyw fath o jôc oedd hyn i gyd ac wedi aros lle roedden nhw. Ond wnaethon nhw ddim ac mae'r gweddill, ys dyweden nhw, yn hanes.

"Fy ngobaith a'm gweddi ydy y byddwch yn darganfod rhywbeth o gariad Duw a'i ofal drosoch dros gyfnod y Nadolig hwn. Peidiwch â synnu os y daw hi yn y fan a'r lle mwyaf rhyfedd ac od; mae Duw bob amser yn gwneud yr annisgwyl."

Mae neges Cymru Fyw yn syml: Nadolig Llawen i bob un ohonoch chi!