Rhwystredigaeth flwyddyn wedi'r llifogydd yn y gogledd

talybont
Image caption Roedd llawer o bentref Talybont dan ddŵr

Blwyddyn ar ôl i lifogydd orfodi nifer o drigolion y gogledd i adael eu cartrefi, mae galwadau o'r newydd am ddechrau gwaith gwerth £22m i atal llifogydd yn yr ardal.

Cafodd cynllun gan Lywodraeth Cymru am waith yn Abergwyngregyn a Thai'r Meibion ger Bangor ei ddatgelu ym mis Chwefror eleni.

Ond bron flwyddyn yn ddiweddarach dyw'r gwaith heb gychwyn gan nad yw cytundebau gyda thirfeddiannwyr lleol wedi eu cwblhau.

Fe ddywed Llywodraeth Cymru y bydd y gwaith yn dechrau unwaith y bydd y cytundebau yn eu lle.

Cafodd rhannau o'r gogledd orllewin eu cau yn llwyr ar Ŵyl San Steffan 2015.

Roedd yr A55 - prif ffordd y gogledd - ynghau yn llwyr ac fe gafodd nifer o gartrefi a busnesau eu difrodi gan y dŵr.

Wythnosau yn ddiweddarach fe gyhoeddwyd cynllun fyddai'n atal y fath beth rhag digwydd eto, ond mae rhwystredigaeth nawr nad yw'r gwaith wedi dechrau.

Image caption Cafodd yr A55 ei chau rhwng C11 a C15, gan ynysu rhannau helaeth o ogledd orllewin Cymru ar 26 Rhagfyr 2015

Buddsoddi arian

Yn ogystal â Thalybont, bu'n rhaid i drigolion adael eu cartrefi ym mhentrefi Llandwrog a Bontnewydd ger Caernarfon, Llanrwst a Llanfairfechan yng Nghonwy a Biwmares ar Ynys Môn.

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif bod dros 100 o adeiladau wedi diodde' mewn rhyw fodd ar draws 40 o gymunedau.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi £1.1 miliwn mewn cynllun atal llifogydd ym mhentre' Talybont - fe agorodd ym mis Tachwedd.

Dywedodd y llywodraeth bod y cynllun wedi gweithio'n dda mewn glaw trwm yn ddiweddar.

Image copyright Dafydd Meurig
Image caption Carwyn Jones yn cwrdd gyda'r Cynghorydd Dafydd Meurig yn Nhalybont

Ond mae cynghorydd lleol Talybont ar Gyngor Gwynedd, Dafydd Meurig, yn cytuno bod y gymuned yn dal yn nerfus.

Fe wnaeth Mr Meurig gwrdd â'r Prif Weinidog Carwyn Jones pan ddaeth i ymweld â Thalybont wedi'r llanast y llynedd.

"Mae'n anodd cyfleu mewn darlun pa mor ofnadwy yw hi pan ydach chi'n sefyll yn ystafell fyw rhywun yn y dŵr budr, erchyll yma," meddai.

"Roedd llifogydd yn Nhalybont yn 2012, ac fe gafodd cynllun ei baratoi bryd hynny... roedd yn barod i fynd.

"Yn anffodus fe ddaeth y llifogydd nesa' cyn i'r cynllun gael ei ariannu."

Ym mis Chwefror, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru £500,000 o gyllid ychwanegol er mwyn dechrau gweithio ar gynllun atal llifogydd rhwng Abergwyngregyn a Thai'r Meibion yn gynt nag a gynlluniwyd yn wreiddiol, sef Hydref 2017.

Image copyright Dafydd Meurig
Image caption Ystafell fyw Paula Sapsford yn Nhalybont ar 26 Rhagfyr 2015

Ond bron flwyddyn yn ddiweddarach, mae methiant i gyrraedd cytundeb gyda thirfeddiannwyr lleol yn golygu nad yw'r gwaith wedi dechrau.

Dywedodd Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, bod yr oedi yn "annerbyniol", a dywedodd Dafydd Meurig bod "angen i'r llywodraeth gael y maen i'r wal".

"Maen nhw'n son am fis Ionawr nawr, ac mae hynny'n mynd â ni i gyfnod lle y gallen ni gael llifogydd eto," meddai Mr Williams.

Yn ystod y glaw eithriadol o drwm yn Rhagfyr 2015, mae'n dweud y gellid fod wedi osgoi'r llifogydd arweiniodd at gau'r A55.

Angen gweithredu'n gyflym

Er ei fod yn croesawu'r cynllun yn Nhalybont, mae'n nodi bod yr A55 wedi cau am gyfnod yn dilyn glaw trwm ym mis Tachwedd eleni a bod angen gweithredu ar frys.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y gwaith cynllunio a phenodi contractwyr ar gyfer rhan Abergwyngregyn o'r cynllun wedi ei gwblhau.

"Unwaith y byddwn ni wedi cyrraedd cytundeb gyda'r tirfeddiannwyr, bydd y gwaith draenio yn gallu cychwyn," medd y llefarydd.

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd y byddai llai o doriadau i'r gyllideb ar gyfer atal llifogydd ac y byddai £33m yn ychwanegol ar gael dros y pedair blynedd nesaf.

Yn ogystal fe fydd cronfa o £150m ar gael i awdurdodau lleol i fenthyca ohoni ar gyfer "rheoli risg llifogydd ac arfordir", a hynny o 2018-2022.


Image copyright Tu Hwnt i'r Bont/ Twitter
Image caption Caffi Tu Hwnt i'r Bont yn Llanwrst yn ystod, a chyn y llifogydd

Ond mae pryder o hyd yn Llanrwst.

Fe gafodd caffi Tu Hwnt i'r Bont ei ddifrodi'n sylweddol, ac mae'r perchennog Tim Maddox yn bryderus nad oes llawer wedi ei wneud i atal llifogydd yno.

"Mae yna gob wedi ei greu i'r gogledd o'r fan hyn sydd i fod i amsugno'r dŵr, ond wnaeth hynny ddim gweithio," meddai.

"Pe bai llifddor yno gyda pherson yn ei gwylio, fe allai'r llifogydd yn Llanrwst fod wedi cael eu hosgoi."

Yn ôl adroddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru, fe wnaeth cynllun £22m i osgoi 76 o gartrefi yn Llanrwst berfformio'n dda, ond roedd y rhwystrau wedi eu codi yn "rhy hwyr" gan arwain at ddifrodi tri o dai.

Wrth i stormydd mawr y gaeaf ddechrau cyrraedd gogledd Cymru dros yr ŵyl, fe fydd trigolion Llanrwst, Talybont a sawl cymuned arall yn gobeithio na fyddan nhw'n wynebu dechrau 2017 yn yr un modd a wnaethon nhw ddechrau 2016.

Straeon perthnasol