Cyn gapten rygbi Cymru wedi marw yn 93 oed

John Gwilliam Image copyright Rex Features
Image caption John Gwilliam yn chwarae i Gasnewydd yn 1949

Mae un o gyn ser tîm rygbi Cymru, John Gwilliam, wedi marw yn 93 oed.

Roedd Gwilliam yn gapten ar Gymru pan enillon nhw'r Gamp Lawn yn 1950 a 1952.

Roedd hefyd yn aelod o dîm Cymru y tro diwethaf iddyn nhw guro'r Crysau Duon yn 1953.

Wedi ei eni ym Mhontypridd, fe chwaraeodd Gwilliam i Gymru 23 o weithiau fel wythwr rhwng 1947 a 1954, ac roedd yn gapten 11 o weithiau.

Image copyright Getty Images
Image caption Tîm Cymru enillodd y Gamp Lawn yn 1950

Pan arweiniodd ei wlad i'r Gamp Lawn yn 1950 gyda buddugoliaeth o 21-0 yn erbyn Ffrainc, dyna oedd y tro cynta' i Gymru gyflawni'r gamp ers 1911.

Erbyn 1953 roedd Gwilliam wedi ildio'r gapteniaeth i Bleddyn Williams, ond roedd yn dal yn chwaraewr allweddol wrth i Gymru drechu Seland Newydd ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Trefynwy a Choleg y Drindod Caergrawnt.

Fe chwaraeodd i Brifysgol Caergrawnt cyn mynd ymlaen i chwarae dros Gasnewydd, Llanelli, Cymry Llundain, Wasps, Crwydriaid Caeredin a Chaerloyw.