Cinio Nadolig i staff y gwasanaeth ambiwlans

Staff ambiwlans Image copyright Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae tua 30 o fwytai a thafarndai yng Nghymru wedi cytuno i fwydo staff y gwasanaeth ambiwlans sy'n gweithio ar Ddydd Nadolig.

Bydd mwy na 400 o staff y gwasanaeth, mewn 86 o orsafoedd yn gweithio ddydd Sul.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans y byddant yn talu'r am brydau bwyd ychwanegol i sicrhau y bydd pob aelod o staff sy'n gweithio yn cael cinio.

Mae rhai cynghorau a bwytai wedi dweud y byddan nhw hefyd yn darparu prydau bwyd am ddim i bobl ddigartref a'r henoed.